
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf a'r Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
28 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym—
(a) adran 2 (hawl mynediad i dir mynediad);
(b) adran 12 (effaith hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion);
(c) adran 13 (rhwymedigaeth meddianwyr);
(ch) adran 14 (tramgwydd arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir);
(d) adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 4 y cyfeirir atynt ym mharagraff (e) o'r erthygl hon;
(dd) adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt ym mharagraff (ff) o'r erthygl hon;
(e) Atodlen 2 (y cyfyngiadau i sydd i'w cadw gan bobl sy'n arfer hawl mynediad);
(f) paragraffau 2 (diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 ) a 3 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1967 ) o Atodlen 4; ac
(ff) i'r graddau nad yw eisoes wedi dod i rym, Rhan I o Atodlen 16 (dirymu).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mawrth 2005