
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y rhannau o Gymru a ganlyn—
(a) y rhan honno o draffordd yr M4 yng Nghymru sy'n cynnwys “the New Toll Plaza area” a “the New Bridge” fel y'u diffinnir yn adran 39(1) o Ddeddf Pontydd Hafren 1992; neu
(b) y rhan honno o'r ffordd a adeiladwyd gan y Gweinidog Trafnidiaeth ar hyd y llinell a ddisgrifir yn Atodlen 1 o Orchymyn Cefnffordd North Almondsbury-South of Haysgate 1947 ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn hwnnw fel “the new road” sy'n gorwedd i'r dwyrain o'r pwynt mwyaf dwyreiniol cyn cyrraedd Afon Gwy lle gall traffig Dosbarthiadau I a II fel y'i pennir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980 adael y ffordd honno ar hyd ffordd arbennig arall.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 fel a ganlyn:
(2) Yn rheoliad 10 (cyfnod hysbysiad cyn symud ymaith i ddinistrio), yn lle “seven days” rhodder “24 hours”.
(3) Yn rheoliad 14 (perchennog yn symud cerbyd ymaith cyn ei waredu), yn lle'r geiriau ar ôl “to be the owner from their custody shall be” rhodder “7 days from the day when that notice is served on that person”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2005