
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005; deuant i rym ar 24 Tachwedd 2005.
2 
Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005 yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 3 (diwygiad o'r diffiniad o “Directive 2000/13/EC” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996) mewnosoder ar y diwedd y geiriau “which was itself amended by Commission Directive 2005/63/EC”.
4 
Yn yr Atodlen, yn nhestun yr Atodlen 2A newydd sydd i'w mewnosod yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rhestr o gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig ac nad yw'r gofynion labelu alergenau yn gymwys iddynt) yng ngholofn 2 yn lle'r geiriau “Fish gelatine used as carrier for vitamins and flavours” rhodder y geiriau “Fish gelatine used as a carrier for vitamin or carotenoid preparations and flavours”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005