
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs resource base”) yw dosbarth neu adran mewn ysgol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig; ac
 ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir heblaw ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol fabanod; ac
 ystyr “ysgol fabanod” (“infant school”) yw ysgol a gynhelir nad yw'n derbyn disgyblion sy'n 8 oed neu drosodd.
3 

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydlu cyngor ysgol, a'i ddiben yw galluogi disgyblion i drafod materion ynglŷn â'u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall y maent yn ymboeni amdano neu sydd o ddiddordeb ac i wneud sylwadau arnynt i'r corff llywodraethu a'r pennaeth;
(2) Rhaid i bennaeth ysgol:
(a) sicrhau bod cyfarfodydd o'r cyngor ysgol yn cael eu cynnull chwech o weithiau yn ystod y flwyddyn ysgol ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, ar gyfnodau rheolaidd, a rhaid i'r cyfarfod cyntaf ddigwydd erbyn 1 Tachwedd 2006; a
(b) sicrhau bod pob cyfarfod cyngor ysgol yn cael eu goruchwylio gan o leiaf un aelod o staff yr ysgol.
(3) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a phennaeth ysgol ill dau ystyried unrhyw fater a gaiff ei gyfleu iddynt gan y cyngor ysgol a rhoi ymateb i'r cyngor ysgol.
(4) Caiff corff llywodraethu'r ysgol a phennaeth yr ysgol gytuno i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ar y cyd â chorff llywodraethu a phennaeth ysgolion eraill.
4 

(1) Dim ond disgyblion cofrestredig yn yr ysgol gaiff ffurfio aelodaeth y cyngor ysgol.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a'r pennaeth drefnu bod o leiaf un disgybl cofrestredig o bob grŵp blwyddyn ysgol, o Flwyddyn 3 ac yn uwch, yn cael ei ethol i aelodaeth y cyngor ysgol.
(3) Anghymhwysir person nad yw'n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol y sefydlir cyngor ysgol ar ei chyfer o aelodaeth y cyngor hwnnw.
(4) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a phennaeth unrhyw ysgol sydd â chanolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig, drefnu bod o leiaf un disgybl cofrestredig o'r ganolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig honno yn cael ei ethol i aelodaeth y cyngor ysgol.
5 
Nid yw Rheoliadau 3(2)(a), 4(2), 6 a 7 yn gymwys i ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion arbennig.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), er mwyn penodi i'r cyngor ysgol, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol sy'n rhoi'r hawl i bob disgybl cofrestredig i bleidleisio dros ymgeiswyr (os oes rhai) yn eu grŵp blwyddyn neu yn eu canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo trefniadau yn cael eu gwneud i bob disgybl cofrestredig fod yn aelod o'r cyngor ysgol.
7 

(1) Rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod cyfle gan y cyngor ysgol i enwebu hyd at ddau ddisgybl o flwyddyn 11 i 13 (yn gynhwysol) o'i aelodaeth i fod yn ddisgybl lywodraethwyr cyswllt ar gorff llywodraethu'r ysgol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu dderbyn unrhyw ddisgybl a enwebwyd yn unol â pharagraff (1) uchod, a'i benodi'n ddisgybl-lywodraethwr ar y corff llywodraethu, ar yr amod na chafodd y disgybl ei anghymhwyso o aelodaeth yn unol ag Atodlen 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
8 

(1) Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder:“
12A 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “disgybl-lywodraethwr cyswllt” yw disgybl cofrestredig a enwebwyd gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o'r corff llywodraethu ac a benodwyd felly gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005.
(2) Mwyafswm y nifer o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu yw dau.
(3) Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder:“
20A. 
Mae unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn ychwanegol at y nifer o lywodraethwyr a osodir yn rheoliad 13 i 20 ac Atodlen 8.”
(4) Ar ôl rheoliad 25(5) mewnosoder:“
(5A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt sydd i ddal swydd am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad ei benodiad. Nid oes dim byd yn y paragraff hwn yn rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod ei swydd i ben.”
(5) Yn lle rheoliad 29 a'i bennawd rhodder:“
29. 
Caiff y corff llywodraethu symud unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1, unrhyw lywodraethwr partneriaeth ac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.”
(6) Ar ddechrau rheoliad 33(1)(ch), mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5),”.
(7) Ar ôl rheoliad 33(4), ychwaneger:“
(5) Nid yw is-baragraffau (ch) a (d) o baragraff (1) yn gymwys i ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.”
(8) Yn rheoliad 44, rhodder “rheoliadau 44A a 63” yn lle “rheoliad 63”.
(9) Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder:“
44A. 

(1) Caiff y corff llywodraethu wahardd disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan gorff llywodraethu sy'n ymwneud â:
(a) penodi staff, cyflog staff, disgyblaeth staff, rheoli perfformiad staff, cwynion a gyflwynwyd gan staff neu ddiswyddo staff;
(b) derbyn;
(c) disgyblu disgybl unigol;
(ch) ethol, penodi a symud llywodraethwyr;
(d) y gyllideb a rhwymedigaethau ariannol y corff llywodraethu;
(dd) yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Weithred Ymddiriedolaeth; neu
(e) unrhyw fater arall, oherwydd ei natur, y mae'r corff llywodraethu yn fodlon ei fod yn gyfrinachol ac y dylai barhau'n gyfrinachol.”
(10) Yn rheoliad 46(1) mewnosoder “unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt,” o flaen “unrhyw leoedd gwag.”
(11) Yn rheoliad 46(2) mewnosoder “(ac eithrio unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr)” ar ôl “ac yn pleidleisio ar y mater.”
(12) Ar ôl rheoliad 46(2), mewnosoder:“
2A. 
Ni chaiff disgybl-lywodraethwyr cyswllt bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu.”.
(13) Yn rheoliad 54(7) mewnosoder “disgybl-lywodraethwyr a” ar ôl “Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys” a newidir “personau” i “phersonau”.
(14) Ar ddiwedd rheoliad 54(8) ychwaneger “ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt.”.
(15) Yn lle rheoliad 55(7), rhodder:“
(7) Ni chaiff pennaeth yr ysgol na disgybl-lywodraethwr cyswllt fod yn aelod o'r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o'r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.”.
(16) Yn rheoliad 56(2) mewnosoder “nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt” ar ôl “y pennaeth”.
(17) Yn rheoliad 57(2)(b) mewnosoder “(ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt)” ar ôl “lywodraethwr arall”.
(18) Yn lle rheoliad 58(2) rhodder:“
(2) Ni cheir penodi pennaeth yr ysgol na disgybl-lywodraethwr cyswllt yn glerc o dan baragraff (1).”
(19) Yn rheoliad 60(5) rhodder “, 57(4) a 60(9)” yn lle “a 57(4)”.
(20) Ar ddechrau rheoliad 60(6) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 60(8),”.
(21) Ar ddechrau rheoliad 60(7) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i reoliad 60(9),”.
(22) Ar ôl rheoliad 60(8), mewnosoder:“
60 

(9) At ddibenion paragraffau (5), (6), (7) ac (8) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu a fydd disgybl-lywodraethwyr cyswllt yn cael eu trin fel llywodraethwyr.”
(23) Ar ddechrau paragraff 1 ac 11(1) o Atodlen 5, mewnosoder “Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2005