
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
3 

(1) At ddibenion adran 44(9)(a) o'r Ddeddf, rhagnodir yr awdurdodau lleol canlynol yn yr achosion canlynol.
(2) Yn achos mabwysiad arfaethedig gan un person nad oes ganddo bellach gartref yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw.
(3) Pan nad oes gan fabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau wedi rhannu'r cartref diwethaf y bu ganddynt yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd y cartref hwnnw.
(4) Pan nad oes gan y mabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau heb rannu'r cartref diwethaf y bu gan y naill a'r llall yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol y mae'r mabwysiadwyr arfaethedig yn ei enwebu, sef yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y naill neu'r llall o'r mabwysiadwyr.
(5) Pan fo dau fabwysiadydd arfaethedig ac nad oes gan y naill na'r llall gartref yng Nghymru ond y bu gan un ohonynt gartref neu gartrefi yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw yng Nghymru.
4 
At ddibenion ymchwiliad a drefnir o dan adran 44(5) o'r Ddeddf, rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau i gael, o ran—
(a) y mabwysiadwyr arfaethedig, a
(b) unrhyw aelodau eraill o'u haelwyd sy'n 18 oed neu'n hyn,dystysgrif cofnod troseddol manwl yn ôl ystyr “enhanced criminal record certificate” yn adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997 gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005