
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 11)(Cymru) 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
30 Rhagfyr 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002—
(a) adran 4 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) adrannau 6 i 8;
(c) adran 12 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ch) adrannau 13 i 15;
(d) adrannau 56 i 58 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(dd) adrannau 60 i 62 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(e) paragraffau 13, 65 ac 111 i 113 o Atodlen 3 ac adran 139(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005