
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Tachwedd 2005.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ategolyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd a fwriedir i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd—
(a) yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag iddi effaith faethol neu ffysiolegol, ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad; a
(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn;
 mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(a), awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno.
 ystyr “baban” (“infant”) yw plentyn o dan ddeuddeg mis oed;
 mae i “bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn” (“processed cereal-based food”) a “bwyd babanod” (“baby food”) yr ystyr a roddir iddynt yn Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2001/15/EC” (“Directive 2001/15/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/5/EC;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “fferyllydd” (“pharmacist”) yw person sy'n cynnal busnes fferyllol yn gyfreithiol o fewn ystyr adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968;
 ystyr “fformiwla fabanod” (“infant formula”) yw bwyd y bwriadwyd ei ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da yn ystod pedwar i chwe mis cyntaf eu bywyd ac sydd ar ei ben ei hun yn diwallu anghenion maethol y babanod hynny;
 ystyr “fformiwla ddilynol” (“follow-on formula”) yw bwyd y bwriadwyd ei ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da sy'n bedwar mis oed neu drosodd ac mae'n ffurfio'r brif elfen hylif mewn deiet sy'n amrywio'n gynyddol;
 “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau eraill tebyg, codenni o bowdr, ffiolau o hylif, poteli sy'n gweinyddu diferion, a ffurfiau eraill tebyg o hylifau neu bowdrau a luniwyd i'w cymryd mewn mesurau o unedau bach;
 ystyr “tryptoffan” (“tryptophan”) yw tryptoffan deheudroadol, tryptoffan chwithdroadol neu dryptoffan rasemig, neu unrhyw halwyn neu beptid a baratowyd o unrhyw un o'r ffurfiau hynny;
 ystyr “tystysgrif feddygol briodol” (“appropriate medical certificate”) yw tystysgrif ysgrifenedig a roddir gan ymarferydd meddygol cofrestredig fod ar berson angen bwyd yr ychwanegwyd tryptoffan ato i drin cyflwr y dadansoddodd yr ymarferydd meddygol cofrestredig fod y person hwnnw'n dioddef oddi wrtho;
 mae “ysbyty” (“hospital”) yn cynnwys clinig, cartref nyrsio neu sefydliad tebyg.
(2) Yn y Rheoliadau hyn o ran cyfeiriadau at ychwanegu tryptoffan at fwyd—
(a) nid ydynt yn cynnwys achosion lle y mae bwyd nad yw ond yn cynnwys tryptoffan sy'n digwydd yn naturiol ynddo yn cael ei ychwanegu at unrhyw fwyd arall o'r fath neu at fwyd nad yw'n cynnwys tryptoffan;
(b) ond maent fel arall yn cynnwys achosion lle y cafodd bwyd y cafodd tryptoffan ei ychwanegu ato ei ychwanegu at unrhyw fwyd arall,
ac nid yw cyfeiriadau yn rheoliad 4 a 5 at fwyd sy'n cynnwys tryptoffan yn cynnwys achos lle nad yw'r tryptoffan hwnnw ond yn digwydd yn naturiol yn y bwyd neu mewn cynhwysyn yn y bwyd.
3 
Os eir yn groes i unrhyw ofynion yn y Rheoliadau hyn o ran unrhyw fwyd a bod y bwyd hwnnw'n rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhagdybir, hyd nes y profir i'r gwrthwyneb, fod yr holl fwyd yn y swp, lot neu lwyth hwnnw yn methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny.
4 
Yn ddarostyngedig i reoliad 5 ni chaiff neb —
(a) ychwanegu tryptoffan at fwyd;
(b) gwerthu, neu gynnig ar werth, fwyd sy'n cynnwys tryptoffan
(c) arddangos ar werth fwyd sy'n cynnwys tryptoffan.
5 

(1) Caniateir gwerthu neu gynnig ar werth fwyd sy'n cynnwys tryptoffan—
(a) gan fferyllydd; neu
(b) yng nghwrs gweithgareddau ysbyty,
i berson y mae tystysgrif feddygol briodol ar ei gyfer neu i rywun sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw, a—
(i) caiff unrhyw berson ychwanegu tryptoffan at fwyd y bwriedir ei werthu yn yr amgylchiadau hynny; a
(ii) caiff unrhyw berson werthu, neu gynnig ar werth, fwyd sy'n cynnwys tryptoffan er mwyn ei werthu yn yr amgylchiadau hynny.
(2) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys o ran—
(a) tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at unrhyw fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol;
(b) tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod; neu
(c) tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Chyfarwyddeb 2001/15/EC at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Gyfarwyddeb honno,
os yw'r sylwedd hwnnw a ychwanegir yn cydymffurfio â'r meini prawf purdeb a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn Pharmacopoeia Ewrop.
(3) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys o ran tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at unrhyw ategolyn bwyd—
(a) os yw'r tryptoffan chwithdroadol yn cydymffurfio â'r meini prawf a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn Pharmacopoeia Ewrop; a
(b) os nad yw'r dogn dyddiol a argymhellir ar gyfer yr ategolyn bwyd hwnnw yn fwy na 220 mg.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 4 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Nid yw fferyllydd neu berson sy'n gweithredu yng nghwrs gweithgareddau ysbyty sy'n mynd yn groes i reoliad 4(b) yn unig oherwydd nad yw dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif feddygol briodol yn ddogfen ddilys yn cyflawni tramgwydd os oedd gan y person hwnnw, ar ôl arfer pob diwydrwydd dyladwy, achos rhesymol dros gredu bod y ddogfen yn dystysgrif feddygol briodol.
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(2) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ddosbarth o ran bwyd a fewnforiwyd.
8 
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod yn rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(e) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd) uchod;
(f) adran 35(1)(cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd) uchod;
(ff) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(g) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ng) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
9 
Pan gaiff unrhyw fwyd ei ardystio gan ddadansoddydd bwyd ei fod yn fwyd y mae'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w werthu, ceir trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a'i ddifa ar orchymyn ynad heddwch oddi tani) fel methiant i gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
10 

(1) Dirymir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990 o ran Cymru.
(2) Dirymir rheoliad 10 o Reoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 a rheoliad 14 o Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005