
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) (Cymru) 2005. Daw i rym ar 21 Tachwedd 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Pensiwn Credyd y Wladwriaeth sy'n daladwy o dan adran 1 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 yn fudd-dal a ragnodwyd at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(vi) o Ddeddf Addysg 1996 mewn amgylchiadau lle mae'r rhiant yn derbyn yr elfen credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005