
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 11 Tachwedd 2005.
2 
Diwygir Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003 yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn Atodlen 1, Nodyn 1, yn lle'r geiriau “a 6” rhodder y geiriau—“
 6 a 7”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Tachwedd 2005