
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2005.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys—
(a) byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis; a
(b) Bison bison;
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
 ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r corff perthnasol a bennir yn adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw'r awdurdod y mae dyletswydd arno yn rhinwedd rheoliad 7 i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
 mae i “bwyd anifeiliaid” a “bwyd i bobl” yr ystyr sydd i “animal food” a “human food” yn eu tro yn Rheoliad 999/2001;
 dehonglir “deunydd” a “cynnyrch” yn eu tro yn unol a'r ystyron sydd i “materials” a “products” ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
 mae i “gwrteithiau” yr ystyr a roddir i “fertilisers” yn erthygl 3.1(k) o Reoliad 999/2001
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio anifeiliaid o'r fath rhag mesurau rheoli a difodi penodol a geir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001;
 ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau spyngffurf trosglwyddadwy penodol, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001;
 ystyr “rhoi ar y farchnad” (“place on the market”) yw gwerthu, cyflenwi mewn unrhyw ffordd arall am dâl neu'n ddi-dâl a storio gyda golwg ar gyflenwi am dâl neu'n ddi-dâl a dehonglir “gafodd ei roi ar y farchnad” (“placed on the market”) yn unol â hynny;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran yr awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n cynnwys,
(a) o ran mangreoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995,
(i) milfeddyg a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 8(1) o'r Rheoliadau hynny;
(ii) unrhyw berson arall a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 8(2) o'r Rheoliadau hynny;
(b) o ran unrhyw fangreoedd sy'n fangreoedd wedi eu cyfuno at ddibenion y Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994, ac sydd wedi'u cymeradwyo oddi tanynt, person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hynny; ac
(c) o ran unrhyw fangreoedd sy'n fangreoedd wedi eu cyfuno at ddibenion y Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995, person—
(i) a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 12(2) o'r Rheoliadau hynny, neu
(ii) a awdurdodwyd i weithredu o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 12(3) o'r Rheoliadau hynny.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw gynnyrch—
(a) sy'n cynnwys neu'n ymgorffori unrhyw ddeunydd sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996; a
(b) y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn rhwystro llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.
4 
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod cyfeiriadau yn is-adran (4) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001;
(c) adran 32 (pwerau mynediad);
(ch) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at “food authority” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol).
5 

(1) Caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi perthnasol arolygu ar bob adeg resymol unrhyw gynnyrch a gafodd ei roi ar y farchnad a bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig, wrth gyflawni'r arolygiad hwnnw neu am unrhyw achos rhesymol arall, fod unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 3 o ran unrhyw gynnyrch.
(2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—
(a) rhoi i'r person sydd â gofal dros y cynnyrch hysbysiad sy'n datgan nad yw'r cynnyrch nac unrhyw gyfran benodedig ohono—
(i) i'w roi ar y farchnad ymhellach i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid na gwrteithiau hyd nes tynnir hysbysiad yn ôl, a
(ii) naill ai i beidio a chael ei symud oddi yno neu i beidio â chael ei symud oddi yno ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad hyd nes tynnir hysbysiad yn ôl; neu
(b) cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—
(a) os yw wedi'i fodloni felly, tynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith; a
(b) os nad yw wedi'i fodloni felly, cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—
(a) bydd gan unrhyw berson a allai fod yn agored o dan reoliad 3 i erlyniad mewn cysylltiad â'r cynnyrch, os bydd y person hwnnw yn dod gerbron yr ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin â'r cynnyrch, hawl i gael gwrandawiad ac i alw tystion; a
(b) caniateir, ond nid oes rhaid, i'r ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o dramgwydd o dan yr adran honno mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—
(a) i'r cynnyrch gael ei ddistrywio neu ei waredu yn y fath fodd ag i'w atal rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer ei fwyta gan bobl; a
(b) i unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r distrywio neu'r gwaredu gael eu talu gan berchennog y cynnyrch.
(6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynglyn â hawl i gael unrhyw iawndal neu ynglyn â swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.
6 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 3 neu'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau; neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a) tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
7 
Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—
(a) gan yr Asiantaeth
(i) mewn mangreoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995,
(ii) mewn mangreoedd sy'n fangreoedd cyfunol at ddibenion Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1994 ac a gymeradwyir oddi tanynt, a
(iii) mewn mangreoedd sy'n fangreoedd cyfunol at ddibenion Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 ac a gymeradwyir oddi tanynt; a
(b) mewn unrhyw fangre arall, gan yr awdurdod bwyd y mae'r fangre yn ei ardal.
8 
Yn lle paragraff (3) o reoliad 3 (ystyr sgil-gynnyrch anifail) o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru rhodder y paragraff canlynol—“
(3) In these Regulations the definition of “animal by-product” includes—
(a) any product subject to the prohibition imposed by regulation 3 of the Bovine Products (Restriction on Placing on the Market) (Wales) Regulations 2005; and
(b) any bovine carcase or body part in respect of which a direction for disposal has been given under regulation 10A(5) of the TSE (Wales) Regulations 2002”.
9 
Mae Rheoliadau Cig Ffres (Rheolaethau ar Gig Eidion) (Rhif 2) 1996 wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Tachwedd 2005