
1 

(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “corff llywodraethu” (“governing body”) o ran ysgol a gynhelir yn cynnwys corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002;
 mae cyfeiriad at “derbynneb” (“receipt”) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw dystiolaeth sy'n cadarnhau swm y gwariant; ac
 mae “llywodraethwr” (“governor”) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir yn cynnwys aelod o gorff llywodraethu dros dro.
3 
Dirymir Rheoliadau Addysg (Lwfansau Llywodraethwyr) 1999 o ran Cymru.
4 

(1) Caiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig wneud taliadau ar ffurf lwfansau yn unol â'r rheoliad hwn i aelod o'r corff llywodraethu hwnnw neu o unrhyw bwyllgor o'r corff llywodraethu hwnnw.
(2) Rhaid i daliadau a wneir o dan baragraff (1) fod yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan y corff llywodraethu at ddibenion y Rheoliadau hyn ac ni chaiff cynllun o'r fath wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag aelodau o'r corff llywodraethu ac aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nac o ran categorïau gwahanol o lywodraethwr neu aelod pwyllgor.
(3) Ni cheir gwneud taliadau dan baragraff (1) ond o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan aelod o'r corff llywodraethu at ddibenion ei alluogi i gyflawni ei ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel aelod o bwyllgor o'r corff llywodraethu.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 7, rhaid i daliadau o dan baragraff (1) fod ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu a'u gwneud pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
5 

(1) Mae'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cael eu rhagnodi fel lwfansau y caiff awdurdod addysg lleol eu talu yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed ganddynt at ddibenion adran 519 o Deddf Addysg 1996,—
(a) i lywodraethwr ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig;
(b) i berson a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ar gorff llywodraethu unrhyw sefydliad sy'n darparu addysg uwch neu addysg bellach (neu'r ddau);
(c) i berson a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ar gorff llywodraethu unrhyw ysgol annibynnol neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw.
(2) Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel person a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reol 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
6 

(1) Pan nad oes gan ysgol a gynhelir gyllideb ddirprwyedig, caiff yr awdurdod addysg lleol dalu'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) isod i aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nad ydynt yn llywodraethwyr yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan yr awdurdod at y diben hwnnw.
(2) Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau mewn perthynas â gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel aelod o bwyllgor ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reoliad 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
(3) Ni chaiff cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wneud darpariaeth wahanol o ran categorïau gwahanol o aelod pwyllgor.
7 
Ni chaiff unrhyw daliadau o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer treuliau teithio a chynhaliaeth fod yn uwch na chyfraddau a bennir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000 .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005