
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; ac
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
3 
Yn adran 28D(7)(a) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd), ar ôl y geiriau “maintained schools” mewnosoder y geiriau “and maintained nursery schools”.
4 
Yn adran 579(1) o Ddeddf 1996 (Dehongli cyffredinol), yn y diffiniad o “proprietor”, ar ôl “foundation special school” mewnosoder “or a maintained nursery school,”.
5 
Er gwaethaf y ffaith bod adran 20(1) o Ddeddf 2002 wedi dod i rym a bod adran 37(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 12 iddi wedi'u diddymu, mae holl offerynnau llywodraethu ysgolion a gynhelir i aros mewn grym hyd nes bod offeryn llywodraethu newydd a wneir yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn cymryd eu lle.
6 

(1) Er gwaethaf y ffaith bod adran 34 o Ddeddf 2002 wedi dod i rym a bod adran 44 o Ddeddf 1998 wedi'i diddymu, mae adran 44 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 i barhau i fod yn gymwys o ran corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd cyn 31 Hydref 2005.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
(a) mae'r darpariaethau yn Neddf 1998 y cyfeirir atynt yn adran 44 o Ddeddf 1998 ac yn Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 ac sydd wedi'u dirymu gan Ddeddf 2002 i gael effaith fel petaent heb eu dirymu;
(b) mae adran 44 o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai is-adran (3)(b) wedi'i hepgor ac fel petai'r geiriau “the date notified to the temporary governing body by the local education authority” wedi'u rhoi yn lle “the school opening date” yn is-adran (4); ac
(c) mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 i gael effaith fel petai'r geiriau “the date notified to the temporary governing body by the local education authority” wedi'u rhoi yn lle “the school opening date” yn rheoliad 31(1) ac fel petai rheoliad 31(3) wedi'i hepgor.
7 

(1) Er gwaethaf y ffaith bod y diffiniad o “maintained school” yn adran 39 o Ddeddf 2002 wedi dod i rym, nid oes angen i'r gofynion a osodir gan adrannau 19(1) ac 20(1) o Ddeddf 2002 i'r graddau y maent yn ymwneud ag ysgolion meithrin a gynhelir gael eu bodloni tan 31 Mawrth 2006.
(2) Hyd nes y bydd offeryn llywodraethu mewn grym ar gyfer ysgol feithrin a gynhelir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2002, dim ond er mwyn galluogi'r offeryn llywodraethu i gael ei wneud a galluogi'r corff llywodraethu i gael ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno y mae'r darpariaethau perthnasol yn cael effaith.
(3) Gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid i barhau i gael yr un swyddogaethau hynny tan yr amser hwnnw, o ran ysgolion meithrin a gynhelir ag yr oedd ganddynt yn union cyn cychwyn y darpariaethau perthnasol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “y darpariaethau perthnasol” yw'r darpariaethau yn Neddf Addysg 2002 a gafodd eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) 2005 a darpariaethau'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae swyddogaethau yn cael eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu neu benaethiaid gan neu o dan y darpariaethau hynny o ran ysgolion meithrin a gynhelir.
8 
Mae cymhwyso Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 i ysgolion meithrin a gynhelir, a hwnnw'n gymhwyso a wnaed drwy beri i adran 45 o Ddeddf 1998 gael ei diwygio gan baragraff 99(2) o Atodlen 21 i Ddeddf 2002, i gael effaith yn y cyfnod sy'n dod i ben yn union cyn 1 Ebrill 2006 ddim ond at ddibenion ariannu ysgolion meithrin a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
9 
Er gwaethaf yr amnewidiad o adran 499(9)(b) o Ddeddf 1996 a wnaed gan baragraff 50 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002, mae rhiant-lywodraethwr a benodwyd neu a etholwyd i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan adran 36 o Ddeddf 1998 i'w drin fel rhiant-lywodraethwr hefyd at ddibenion adran 499(6) ac (8) o Ddeddf 1996.
10 

(1) Mae Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn lle'r diffiniad o “ysgol”, rhodder y canlynol—“
 ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;”.
11 

(1) Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2)(a) a (b), ar ôl y geiriau “ysgol arbennig sefydledig” mewnosoder y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
(3) Yn rheoliad 7 yn lle'r geiriau “Rheoliad 41 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999” rhodder y geiriau “rheoliad 50 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cymru) 2005”.
(4) Mewnosoder ar ddiwedd rheoliad 9 y canlynol—“
(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.”
(5) Mewnosoder ar ddiwedd rheoliad 10 y canlynol—“
(11) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.”
12 

(1) Mae Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgol arbennig gymunedol” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
13 
Mae Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999 yn cael eu diwygio drwy fewnosod yn rheoliad 1(2) ar ôl “foundation special school” y geiriau “or maintained nursery school”.
14 

(1) Mae Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 wedi'u diwygio fel a ganlyn—
(a) mae rheoliad 1(4) yn cael ei hepgor;
(b) ym mharagraff 1 o'r Atodlen mewnosoder ar ôl y geiriau “o gyfran yr ysgolion a gynhelir o'r gyllideb” y geiriau “neu gyfran yr ysgolion meithrin a gynhelir o'r gyllideb”;
(c) ym mharagraff 3(b) o'r Atodlen mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgolion a gynhelir” y geiriau “a'r ysgolion meithrin a gynhelir”.
(2) Mae rheoliadau 2(a) a 3(1) i (3) o Reoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 yn gymwys, o ran yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan baragraff (1), fel petai “30 Ebrill 2006” a “31 Gorffennaf 2006” wedi'u rhoi yn lle “30 Ebrill 2002” a “31 Gorffennaf 2002” yn rheoliad 3(2) a (3).
15 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 yn cael ei ddiwygio drwy fewnosod yn y diffiniad o “proprietor”, ar ôl y geiriau “foundation special school”, y geiriau “or a maintained nursery school”.
16 
Er gwaethaf y ffaith bod adran 52 (11) o Ddeddf Addysg 2002 wedi dod i rym ac er gwaethaf rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn, mae Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 yn gymwys o ran ysgolion meithrin a gynhelir mewn perthynas â gwaharddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.
17 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o “ysgol”, rhodder y canlynol—“
 ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig neu ysgol feithrin a gynhelir;”.
18 

(1) Mae Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(3), ar ôl y geiriau “ysgol sefydledig arbennig” mewnosoder y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
(3) Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, mewnosoder ar ôl y geiriau “yr awdurdod” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
(4) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 1(b), mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgol a gynhelir” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”;
(b) ym mharagraff 2(b), mewnosoder ar ôl y geiriau “yr awdurdod” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”;
(c) ym mharagraff 3 mewnosoder o flaen y geiriau “ysgol gynradd” y geiriau “ysgol feithrin a gynhelir neu'r”;
(ch) yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o baragraff 6, ac ym mhob un ohonynt, mewnosoder o flaen y geiriau “ysgolion cynradd” y geiriau “ysgolion meithrin a gynhelir,”.
19 

(1) Mae Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgolion a gynhelir” y geiriau “, ac eithrio ysgolion meithrin a gynhelir,”.
(3) Ychwaneger ar ôl rheoliad 1(2) y canlynol—“
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys at ddiben ariannu ysgolion meithrin a gynhelir ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2006.”.
20 

(1) Mae Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer o reoliad 4(5) y geiriau “ond heb gynnwys ysgol feithrin”.
21 
Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i'r diffiniad o “appropriate body” yn adran 11(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 gan baragraff 60 o Atodlen 21, mae'r cyfeiriadau at “appropriate body” yn adrannau 16(4) a 17 o'r Ddeddf honno o ran arolygiad o ysgol feithrin a gynhelir a ddigwyddodd cyn bod corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at yr awdurdod addysg lleol, ac nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff 64 i adran 18(1)(a) o'r Ddeddf honno i gael effaith o ran arolygiad o'r fath.
22 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 yn cael eu diwygio drwy fewnosod yn rheoliad 5(1)(a) a (b) ar ôl y gair “voluntary” y geiriau “, maintained nursery school”.
(2) Mae'r cyfeiriadau at ddarpariaethau yn Neddf Arolygiadau Ysgolion 1996 a Deddf 1998 yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 yn gyfeiriadau at y darpariaethau hynny, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf 2002, ond pan fo adroddiad arolygwyr ar ysgol feithrin a gynhelir wedi dod i law cyn bod corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr ysgol, mae rheoliadau 8 a 10 yn cael effaith fel petai'r awdurdod addysg lleol oedd yr awdurdod priodol.
23 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(3)(a) hepgorer y geiriau “(except in the case of a nursery school)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005