
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Dirymir Rheoliadadau Addysg (Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni) (Cymru) 1999.
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn—
(a) at y corff llywodraethu neu gorff llywodraethu ysgol yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddi;
(b) at riant yn gyfeiriad at riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae'r ddarpariaeth yn gymwys iddi;
(c) at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir o fewn ystyr “maintained school” yn adran 39(1) o Ddeddf 2002.
4 
Mae corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni—
(a) os yw'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig a gafodd ei sefydlu mewn ysbyty a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol cynnal cyfarfod o'r fath yn y flwyddyn ysgol honno; neu
(b) os yw'r ysgol yn ysgol a gynhelir heblaw un o fewn paragraff (a), a bod y corff llywodraethu o'r farn y byddai'n anymarferol cynnal cyfarfod o'r fath yn y flwyddyn ysgol honno, a bod o leiaf 50% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol yn ddisgyblion byrddio ar yr adeg y ffurfir y farn honno gan y corff llywodraethol.
5 
Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir gan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni am y flwyddyn ysgol y caiff y cyfarfod y cyfeirir ato ym mharagraff (b) ei gynnal—
(a) os cafodd yr ysgol ei harolygu o dan adran 10 o Deddf Arolygu Ysgolion 1996 gan arolygydd cofrestredig, ac
(b) os yw'r corff llywodraethu, o fewn y cyfnod a ragnodwyd yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru)1998 ar gyfer paratoi cynllun gweithredu, wedi cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo i drafod adroddiad yr arolygydd cofrestredig.
6 
Os bydd y corff llywodraethu, mewn unrhyw flwyddyn ysgol, yn cynnal cyfarfod y cafodd pob rhiant wahoddiad iddo, neu gyfres o gyfarfodydd a bod pob rhiant yn cael gwahoddiad i o leiaf un o'r gyfres, a bod—
(a) rhieni dim llai na 20% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol yn mynychu'r cyfarfod neu o leiaf un mewn cyfres;
(b) rhieni yn cael cyfle yn y cyfarfod neu ym mhob un o'r gyfres o gyfarfodydd (yn ôl y digwydd) i drafod y dull y cafodd yr ysgol ei rhedeg, a'r dull y bydd yn cael ei rhedeg, a pherfformiad yr ysgol, ac
(c) tri neu fwy o lywodraethwyr yn mynychu'r cyfarfod neu bob cyfarfod yn y gyfres (yn ôl y digwydd),mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni ar gyfer y flwyddyn ysgol y cynhelir y cyfarfod neu (yn ôl y digwydd) gyfres y cyfarfodydd ynddi.
7 
Mae'r corff llywodraethu yn esempt rhag y rhwymedigaeth a osodir o dan adran 33(1) o Ddeddf 2002 i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni mewn unrhyw flwyddyn ysgol pan fydd yn rhoi i rieni gydag adroddiad y llywodraethwyr hysbysiad yn gofyn i rieni ddatgan yn ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig nad yw'n llai na 7 niwrnod os yw'n ofynnol ganddynt i'r corff llywodraethu gynnal cyfarfod blynyddol rhieni a bod rhieni llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig yn ymateb o fewn y cyfnod penodedig.
8 
Nid yw'r esemptiadau yn rheoliadau 5, 6 ac 7 yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn ysgol—
(a) os na chafodd cyfarfod blynyddol rhieni ei gynnal yn y flwyddyn flaenorol; neu,
(b) os yw'r corff llywodraethu, cyn 31 Mai yn y flwyddyn ysgol honno, yn cael cais ysgrifenedig gan rieni dim llai na 5% o'r disgyblion cofrestredig i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005