
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005; deuant i rym ar 20 Hydref 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Rhaid i broseswr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth.
(2) Caiff yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r proseswr llaeth ddarparu'r wybodaeth ofynnol yn wythnosol, a chaiff bennu'r amser a'r diwrnod erbyn pryd y bydd rhaid darparu'r wybodaeth a ffurf yr wybodaeth.
3 
Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1) yn euog o dramgwydd, ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2005