
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 20 Hydref 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Cynllun cenedlaethol wrth gefn) yn gymwys o ran ffliw adar a chlefyd Newcastle.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005