
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “asiantaeth cymorth mabwysiadu cofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw asiantaeth cymorth mabwysiadu y mae person wedi'i gofrestru mewn cysylltiad â hi dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 mae i “yr asiantaeth fabwysiadu briodol” (“the appropriate adoption agency”) yr un ystyr â “the appropriate adoption agency” yn adran 65(1) o Ddeddf 2002;
 ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw person mabwysiedig neu berthynas person mabwysiedig sy'n gwneud cais o dan reoliad 5;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
 mae i “gwasanaeth cyfryngol” (“intermediary service”) ac “asiantaeth gyfryngol” (“intermediary agency”) yr ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 4;
 ystyr “gwrthrych” (“subject”) mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn yw person y mae'r ceisydd yn gofyn am gyswllt ag ef;
 mae i “gwybodaeth adnabod” (“identifying information”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7; ac
 mae i “perthynas” yr un ystyr â “relative” o ran person mabwysiedig yn adran 98 o Ddeddf 2002.
RHAN 2
3 

(1) Caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig neu asiantaeth fabwysiadu ddarparu gwasanaeth cyfryngol mewn cysylltiad â phersonau a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005.
(2) Ni chaniateir darparu gwasanaeth cyfryngol ond mewn cysylltiad â phersonau a fabwysiadwyd ac a gyrhaeddodd 18 oed.
(3) Rhaid darparu'r gwasanaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(4) Mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth cymorth mabwysiadu at ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gwasanaeth cyfryngol yn wasanaeth a ddarperir at ddibenion—
(a) cynorthwyo personau mabwysiedig i gael gwybodaeth mewn perthynas â'u mabwysiad; a
(b) hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau.
(2) Cyfeirir at asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig neu asiantaeth fabwysiadu sy'n darparu gwasanaeth cyfryngol yn y Rheoliadau hyn fel “asiantaeth gyfryngol”.
(3) Nid yw asiantaeth fabwysiadu yn darparu gwasanaeth cyfryngol at ddibenion y Rheoliadau hyn os hi yw'r asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â pherson a fabwysiadwyd ac os nad yw hi ond yn darparu gwybodaeth am fabwysiad y person hwnnw.
RHAN 3
5 

(1) Caiff asiantaeth gyfryngol, mewn perthynas â mabwysiad ar 30 Rhagfyr 2005, neu cyn hynny, dderbyn cais —
(a) oddi wrth y person mabwysiedig am gynorthwy i gael gwybodaeth am ei fabwysiad ac i gysylltu â pherthynas; neu
(b) oddi wrth berthynas y person mabwysiedig am gynorthwy i gysylltu â'r person hwnnw.
(2) Caiff asiantaeth gyfryngol dderbyn cais mewn perthynas â mabwysiad ar 12 Tachwedd 1975 neu ar ôl hynny, ond rhaid iddi roi blaenoriaeth i geisiadau mewn cysylltiad â mabwysiadau cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Mewn ceisiadau o dan baragraff (1) a (2) uchod, rhaid i'r ceisydd a'r person y mae'r ceisydd yn ceisio cyswllt ag ef, neu'r person y mae'n ceisio gwybodaeth amdano, fod yn 18 oed neu'n hŷn.
6 

(1) Nid yw'n ofynnol i asiantaeth gyfryngol sy'n derbyn cais o dan y Rheoliadau hyn fwrw ymlaen ag ef, neu os yw wedi dechrau bwrw ymlaen ag ef, nid yw'n ofynnol iddi barhau ag ef, os yw'r asiantaeth gyfryngol o'r farn na fyddai'n briodol gwneud hynny.
(2) Wrth benderfynu a yw'n briodol i fwrw ymlaen (neu ddal ati) gyda chais rhaid i'r asiantaeth gyfryngol roi ystyriaeth i'r canlynol—
(a) lles —
(i) y ceisydd;
(ii) y gwrthrych; a
(iii) unrhyw bersonau eraill y mae'n bosibl eu hadnabod neu eu heffeithio o ganlyniad i'r cais;
(b) unrhyw farn gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol a gafwyd o dan reoliad 12;
(c) unrhyw feto a gofnodir o dan reoliad 8;
(ch) unrhyw wybodaeth a geir oddi wrth y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu o dan reoliad 13,
a holl amgylchiadau eraill yr achos.
(3) Mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) rhaid i'r asiantaeth gyfryngol roi ystyriaeth arbennig i les unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (2)(a)(iii) sydd o dan 18 oed.
(4) Os yw'r asiantaeth gyfryngol ar unrhyw adeg yn cael gwybod bod gwrthych y cais o dan 18 oed rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen ymhellach â'r cais mewn perthynas â'r gwrthrych hwnnw.
7 

(1) Rhaid i asiantaeth gyfryngol beidio â datgelu i'r ceisydd unrhyw wybodaeth adnabod am y gwrthrych heb yn gyntaf gael cydsyniad y gwrthrych.
(2) Rhaid i'r asiantaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad i ddatgelu o dan y rheoliad hwn ddigon o wybodaeth i alluogi iddo wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i unrhyw ddatgeliad o'r fath.
(3) Os yw'r gwrthrych wedi marw neu os yw'r asiantaeth gyfryngol yn penderfynu nad yw'r gwrthrych yn alluog i roi cydsyniad deallus, caiff yr asiantaeth gyfryngol ddatgelu yr wybodaeth adnabod honno am y gwrthrych yr ystyria ei bod yn briodol o ystyried y materion a nodir yn rheoliad 6.
(4) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 9 a 12, ystyr “gwybodaeth adnabod” yw gwybodaeth sydd, o'i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y ceisydd, yn galluogi i'r gwrthrych gael adnabod neu'i olrhain.
8 

(1) Mae feto yn gymwys mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn—
(a) pan fo'r person yn berson mabwysiedig; a
(b) pan fo'r person hwnnw wedi hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu briodol yn ysgrifenedig—
(i) nad yw'n dymuno i asiantaeth gyfryngol gysylltu ag ef mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn; neu
(ii) nad yw ond yn dymuno bod cyswllt yn cael ei wneud ag ef o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig.
(2) Pan hysbysir yr asiantaeth fabwysiadu briodol am feto o dan baragraff (1) rhaid iddi gadw cofnod ohono a sicrhau ei bod yn hysbys i unrhyw asiantaeth gyfryngol sy'n cysylltu â hi mewn perthynas â chais o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Pan fo asiantaeth gyfryngol yn ymwybodol bod feto yn gymwys, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â'r cais.
9 
Mewn achos pan wrthodir cydsyniad y gwrthrych neu pan na ellir cael ei gydsyniad o dan reoliad 7 neu pan fo feto yn gymwys o dan reoliad 8, nid oes dim yn y rheoliadau hynny yn atal yr asiantaeth gyfryngol rhag datagelu i'r ceisydd unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw'n wybodaeth adnabod a bod yr asiantaeth yn ei hystyried yn briodol i'w datgelu.
10 

(1) Rhaid i asiantaeth gyfryngol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am argaeledd cwnsela i unrhyw berson—
(a) sy'n gwneud cais iddi o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b) sy'n wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano i'r ceisydd.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a roddir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a) disgrifiadau o bersonau sy'n cynnig cwnsela; a
(b) y ffioedd y gellir eu codi gan y personau hynny.
(3) Os yw person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn am gael cwnsela, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol sicrhau bod gwasanaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.
(4) Caiff yr asiantaeth gyfryngol ddarparu'r gwasanaethau cwnsela hynny eu hunan neu wneud trefniadau ag unrhyw un o'r personau canlynol am ddarpariaeth cwnsela—
(a) os yw'r person yng Nghymru neu yn Lloegr, asiantaeth fabwysiadu arall neu asiantaeth cymorth mabwysiadu gofrestredig arall;
(b) os yw'r person yn yr Alban, asiantaeth fabwysiadu Albanaidd;
(c) os yw'r person yng Ngogledd Iwerddon, cymdeithas fabwysiadu a gofrestrwyd o dan Erthygl 4 o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987 neu oddi wrth unrhyw Fwrdd; neu
(ch) os yw'r person y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw berson neu gorff y tu allan i'r Deyrnas Unedig y mae'n ymddangos i'r asiantaeth ei fod yn cyfateb o ran ei swyddogaethau i gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “Bwrdd” yw Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1972 neu pan fo swyddogaethau bwrdd yn arferadwy gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Ymddiriedolaeth honno.
(6) Pan nad yw gwasanaethau cwnsela ar gael i wrthrych heblaw gwasanaethau y mae'n rhaid talu amdanynt ac mae'r gwrthrych yn dewis peidio â'u defnyddio, er hynny rhaid i'r asiantaeth gyfryngol ddarparu cymorth a chynorthwy i'r gwrthrych wrth iddo benderfynu ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth.
RHAN 4
11 
Pan gaiff asiantaeth gyfryngol gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddi gymryd camau rhesymol i gadarnhau—
(a) hunaniaeth ac oedran y ceisydd a hunaniaeth unrhyw berson sy'n gweithredu ar ei ran;
(b) bod unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y ceisydd wedi'i awdurdodi i wneud hynny; ac
(c) yn achos cais gan berthynas i'r person mabwysiedig bod y ceisydd yn perthyn i'r person hwnnw.
12 

(1) Rhaid i'r asiantaeth gyfryngol (onibai mai hi yw'r asiantaeth fabwysiadu briodol) gymryd pob cam rhesymol i sefydlu a oedd asiantaeth fabwysiadu ynghlwm wrth y mabwysiad ac, os felly, adnabod yr asiantaeth fabwysiadu briodol.
(2) Mae'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys—
(a) gofyn yn ysgrifenedig am yr wybodaeth honno oddi wrth y Cofrestrydd Cyffredinol;
(b) os bydd y Cofrestrydd Cyffredinol yn ardystio nad yw'r wybodaeth honno ganddo, gofyn amdani yn ysgrifenedig i'r llys a wnaeth y gorchymyn mabwysiadu; ac
(c) holi'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y mabwysiad.
(3) Os cafodd yr asiantaeth fabwysiadu briodol ei hadnabod, rhaid i'r asiantaeth gyfryngol gysylltu â'r asiantaeth honno er mwyn gwybod a oes feto o dan reoliad 8 yn bodoli.
(4) os nad oes feto o dan reoliad 8 yn bodoli rhaid i'r asiantaeth gyfryngol —
(a) cael gwybod a yw'r gwrthrych wedi, ar unrhyw adeg, mynegi barn am gyswllt â pherthynas yn y dyfodol neu am godi pwnc cyswllt o'r fath gydag ef;
(b) cael gwybod beth yw barn yr asiantaeth ynghylch priodoldeb y cais (gan ystyried y ffactorau a grybwyllir yn rheoliad 6); a
(c) ceisio unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol at ddibenion—
(i) olrhain y gwrthrych;
(ii) galluogi'r gwrthrych i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i ddatgelu gwybodaeth amdano'i hun neu ar gyfer cyswllt â'r ceisydd;
(iii) cwnsela'r gwrthrych mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw; neu
(iv) cwnsela'r ceisydd.
(5) Onibai bod feto y cyfeirir ato yn rheoliad 8 yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu briodol gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â chais oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan baragraff (3) a chaiff ddatgelu i'r asiantaeth gyfryngol unrhyw wybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth adnabod) sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.
13 

(1) Os, yn unrhyw un o'r achosion a grybwyllir ym mharagraff (2), nad yw'r asiantaeth gyfryngol wedi cael oddi wrth yr asiantaeth fabwysiadu briodol ddigon o wybodaeth at y dibenion a grybwyllir yn rheoliad 12(4)(c), caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth am y canlynol a all ei chynorthwyo at y dibenion hynny—
(a) gwybodaeth y gall fod ganddi a fyddai'n galluogi i gais gael ei wneud am dystysgrif o'r Gofrestr Plant Mabwysiedig;
(b) gwybodaeth o'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.
(2) Yr achosion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) pan na all yr asiantaeth gyfryngol adnabod yr asiantaeth fabwysiadu briodol neu pan fydd yn canfod nad oedd dim asiantaeth fabwysiadu ynghlwm wrth y mabwysiad;
(b) pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu briodol ac yn cael gwybod nad oes ganddi'r wybodaeth angenrheidiol.
(3) Pan fo'r asiantaeth gyfryngol yn asiantaeth fabwysiadu briodol ac nad oes ganddi ddigon o wybodaeth at y dibenion a grybwyllir yn rheoliad 12(4)(c) caiff ofyn i'r Cofrestrydd Cyffredinol am unrhyw wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) a(b) a all ei chynorthwyo at y dibenion hynny.
14 

(1) Rhaid i'r Cofrestrydd Cyffredinol gymryd camau rhesymol i gydymffurfio â chais ysgrifenedig am wybodaeth oddi wrth asiantaeth gyfryngol o dan reoliad 12 neu 13.
(2) Os nad yw'r wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol am yr asiantaeth fabwysiadu briodol o dan reoliad 13 rhaid iddo roi dilysiad ysgrifenedig i'r asiantaeth gyfryngol o'r ffaith honno ynghyd â manylion am y llys a drefnodd y mabwysiad.
15 

(1) Rhaid i'r llys ddatgelu unrhyw wybodaeth y mae'r asiantaeth gyfryngol yn gofyn amdani o dan reoliad 12(2)(b) a gynhwysir mewn cofnodion llys.
(2) Os nad oes gan y llys yr wybodaeth y gofynnir amdani o dan reoliad 12(2)(b) rhaid iddo hysbysu'r asiantaeth gyfryngol o'r ffaith honno yn ysgrifenedig, gan bennu'r chwiliadau o gofnodion llys a wnaed ac, os yw'r llys o'r farn y gellir dod o hyd i'r wybodaeth yng nghofnodion llys arall, roi manylion y llys hwnnw i'r asiantaeth gyfryngol.
16 
Caiff asiantaeth gyfryngol ddatgelu'r wybodaeth honno (gan gynnwys gwybodaeth sy'n gyfrwng adnabod unrhyw berson) sy'n angenrheidiol—
(a) i'r Cofrestrydd Cyffredinol neu'r llys at ddiben cael gwybodaeth o dan reoliad 12 neu 13;
(b) i'r asiantaeth fabwysiadu briodol at ddiben cael gwybod ei barn neu geisio gwybodaeth o dan reoliad 12;
(c) i'r gwrthrych i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus o dan reoliad 7; ac
(ch) i berson sy'n darparu gwasanaethau cwnsela mewn cysylltiad â chais o dan y Rheoliadau hyn.
RHAN 5
17 
Mae asiantaeth gyfryngol sy'n datgelu gwybodaeth yn groes i reoliad 7 heb esgus rhesymol yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
18 

(1) Caiff asiantaeth gyfryngol godi unrhyw ffi ar geisydd y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol mewn cysylltiad â phrosesu cais o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff asiantaeth gyfryngol godi ffi ar berson a grybwyllir yn rheoliad 10(1) y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol o ran darparu gwasanaethau cwnsela i'r person hwnnw.
(3) Caiff y Cofrestrydd Cyffredinol godi £10 am ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 13.
(4) Caiff asiantaeth fabwysiadu godi ffi ar asiantaeth gyfryngol y mae'n penderfynu ei bod yn rhesymol ar gyfer darparu gwybodaeth neu roi ei barn yn unol â chais o dan reoliad 12.
(5) Caiff llys godi £20 ar asiantaeth gyfryngol am ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 15.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Medi 2005