
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 28 Medi 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1985;
 ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw'r ddogfen a baratowyd gan landlord yn unol ag adran 121AA o'r Ddeddf;
 ystyr “landlord” (“landlord”) yw corff sy'n gosod tai annedd o dan denantiaethau diogel.
3 
Mae'r materion a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn faterion a bennir at ddibenion adran 121AA o'r Ddeddf.
4 

(1) Rhaid i landlord gyhoeddi'r ddogfen o fewn dau fis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) Os bydd landlord yn diwygio'r ddogfen o dan adran 121AA(4) o'r Ddeddf rhaid iddo gyhoeddi'r ddogfen yn ei ffurf ddiwygiedig o fewn mis o'r diwygio.
5 

(1) Ar ôl cyhoeddi'r ddogfen yn unol ag erthygl 4(1) neu (2) rhaid i landlord roi copi o'r ddogfen—
(a) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i bob un o'i denantiaid diogel ar yr adeg honno; a
(b) i bob tenant diogel newydd wedyn, ar yr adeg y llofnodir y denantiaeth.
(2) Rhaid i landlord roi i bob un o'i denantiaid diogel gopi o fersiwn gyfredol y ddogfen o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan roddwyd y ddogfen yn unol ag erthygl 5(1)(a).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Medi 2005
YR ATODLEN
Erthygl 3
1 
Amlinelliad o effaith darpariaethau Rhan 5 o'r Ddeddf o ran—
(a) yr amgylchiadau pan ellir a phan na ellir arfer yr hawl i brynu;
(b) yr eithriadau i'r hawl i brynu a nodir yn Atodlen 5 i'r Ddeddf;
(c) y weithdrefn ar gyfer hawlio'r arfer hawl i brynu;
(ch) y dull o gyfrifo'r pris sy'n daladwy am y tŷ annedd gan denant sy'n arfer yr hawl i brynu; a
(d) y gweithdrefnau hysbysu oedi ar gyfer landlordiaid a thenantiaid a nodir yn adran 153A a 153B a hysbysiadau cwblhau'r landlord o dan adran 140 a 141 o'r Ddeddf.
2 

(1) Y ffaith ei bod yn debygol y tynnir costau cychwynnol gan denant diogel sy'n arfer ei hawl i brynu.
(2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gostau cychwynnol yn cynnwys costau o ran—
(a) y doll stampiau;
(b) ffioedd cyfreithiol ac arolygu;
(c) ffioedd prisio a chostau sy'n gysylltiedig â chymryd morgais.
3 

(1) Y ffaith ei bod yn debygol y bydd tenant diogel yn gorfod gwneud taliadau rheolaidd fel perchennog tŷ annedd.
(2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at daliadau rheolaidd yn cynnwys taliadau o ran—
(a) unrhyw forgais neu arwystl ar y tŷ annedd;
(b) yswiriant adeiladau, yswiriant bywyd, ac yswiriant diogelu taliadau morgais;
(c) y dreth gyngor;
(ch) gwasanaethau dŵr, carthffosiaeth, nwy, trydan, neu gyfleustodau eraill.
4 
Risg adfeddiannu'r tŷ annedd os na wneir y taliadau morgais yn rheolaidd.
5 
Er mwyn cynnal yr eiddo mewn cyflwr da, y ffaith ei bod yn debygol y bydd yn rhaid i berchennog tŷ annedd dynnu gwariant a allai gynnwys talu taliadau gwasanaeth (blynyddol yn ogystal ag o ran gwaith mawr) lle bo'n briodol.