
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Hawl Cynnig Cyntaf) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 28 Medi 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985;
 ystyr “eiddo” (“property”) yw eiddo sy'n ddarostyngedig i gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 156A o Ddeddf 1985;
 ystyr “hysbysiad cynnig” (“offer notice”) yw hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion rheoliad 12(1);
 ystyr “hysbysiad derbyn” (“acceptance notice”) yw hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion rheoliad 12(2);
 ystyr “hysbysiad gwrthod” (“rejection notice”) yw hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion rheoliad 12(3);
 ystyr “landlord blaenorol” (“former landlord”) yw'r landlord a waredodd yr eiddo o dan Ran 5 o Ddeddf 1985; ac
 ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r person sydd yn berchennog rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol eiddo ac a gyfrwymwyd gan gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 156A o Ddeddf 1985.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys os gosodwyd cyfamod hawl cynnig cyntaf mewn perthynas â thŷ annedd a leolir yng Nghymru.
2 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant y perchennog yn yr eiddo.
(2) Os bydd gan y perchennog fuddiant lesddaliadol rhaid i'r perchennog gydymffurfio â gofynion rheoliad 3.
(3) Os bydd gan y perchennog fuddiant rhydd—ddaliadol rhaid i'r perchennog gydymffurfio â gofynion rheoliad 4.
3 
Rhaid i'r perchennog gyflwyno hysbysiad cynnig—
(a) i'r landlord blaenorol, os yw'n dal i fod yn landlord; neu
(b) os nad yw'r landlord blaenorol yn dal i fod yn landlord, i'r person y breinir y buddiant mewn rifersiwn ynddo ar hyn o bryd.
4 
Rhaid i'r perchennog gyflwyno hysbysiad cynnig—
(a) i'r landlord blaenorol (os yw'r person hwnnw yn dal mewn bodolaeth); neu
(b) os nad yw'r landlord blaenorol yn dal mewn bodolaeth, i'r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr eiddo ynddi.
5 

(1) Rhaid i'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig o dan naill ai reoliad 3 neu 4 anfon cydnabyddiaeth at y perchennog ei fod wedi ei gael cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i'r gydnabyddiaeth ei fod wedi cael yr hysbysiad—
(a) pennu'r dyddiad y cafwyd yr hysbysiad cynnig; a
(b) esbonio effaith rheoliadau 6 i 10, mewn termau syml.
6 

(1) Os bydd y sawl sy'n cael hysbysiad cynnig yn dymuno derbyn y cynnig, rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o 8 wythnos sy'n dechrau ar y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad.
(2) Os derbynnir cynnig rhaid gwneud hynny drwy hysbysiad derbyn, ac ynddo rhaid i'r sawl sy'n cael yr hysbysiad cynnig naill ai—
(a) derbyn y cynnig ei hunan; neu
(b) enwebu person arall i dderbyn y cynnig yn unol â rheoliad 8.
(3) Nid yw cyflwyno hysbysiad derbyn gan unrhyw berson sydd â'r hawl i wneud hynny yn rhoi unrhyw hawl i berchennog yr eiddo i'w gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw brynu'r eiddo oni fydd ac hyd nes y bydd y person hwnnw'n ymrwymo i gontract cyfrwymol i werthu yn unol â rheoliad 10.
7 

(1) Rhaid i'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig gyflwyno hysbysiad gwrthod cyn gynted â'i fod wedi penderfynu nad yw'n dymuno naill ai—
(a) derbyn y cynnig ei hunan; neu
(b) enwebu person arall i dderbyn y cynnig yn unol â rheoliad 8.
(2) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad gwrthod o fewn 8 wythnos ar ôl y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad cynnig.
8 

(1) Caiff y sawl sy'n cael hysbysiad cynnig enwebu person arall i dderbyn y cynnig.
(2) Yr unig bersonau y gellir eu henwebu i dderbyn cynnig yw'r personau hynny sydd naill ai—
(a) wedi'u cofrestreu'n landlord cymdeithasol o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996; neu
(b) yn cyflawni'r amod landlord yn adran 80 o Ddeddf 1985.
(3) Cyn y gellir enwebu person i dderbyn cynnig penodol, rhaid bod y person hwnnw wedi dangos yn ddiamwys yn ysgrifenedig i'r sawl sy'n cael hysbysiad cynnig ei fod yn dymuno cael ei enwebu i dderbyn y cynnig.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r ymadrodd “yn ysgrifenedig” yn cynnwys dogfen a drosglwyddwyd gan ffacs neu fodd electronig arall.
9 

(1) Os bydd perchennog wedi cyflwyno hysbysiad cynnig a bod y sawl sy'n ei gael—
(a) heb gyflwyno naill ai hysbysiad derbyn neu hysbysiad gwrthod o fewn 8 wythnos ar ôl y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad cynnig; neu
(b) wedi cyflwyno hysbysiad gwrthod,
yna, yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y perchennog waredu'r eiddo fel y gwêl y perchennog yn dda; ac fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw warediad o'r eiddo ar ôl hynny gan y perchennog.
(2) Os bydd y perchennog, ar ôl i'r cyfnod o 12 mis ddod i ben, fel y penderfynwyd yn unol â pharagraffau (3) neu (4) fel y bo'n briodol, yn cadw'r buddiant yn yr eiddo, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys os bydd gwarediad o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 2(1).
(3) Yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a), mae'r cyfnod o 12 mis yn dechrau drannoeth y diwrnod pan ddaw'r cyfnod o 8 wythnos i ben.
(4) Yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b), mae'r cyfnod o 12 mis yn dechrau drannoeth y diwrnod pan gyflwynwyd yr hysbysiad gwrthod.
10 

(1) Rhaid i berson sy'n derbyn cynnig, ymrwymo i gontract cyfrwymol gyda'r perchennog er mwyn prynu'r eiddo—
(a) dim hwyrach na 12 wythnos ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad derbyn i'r perchennog; neu
(b) dim hwyrach na 4 wythnos ar ôl y dyddiad y cafwyd hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y perchennog fod y perchennog yn barod i gwblhau;
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(2) Os na chydymffurfir â'r terfyn amser ym mharagraff (1), yna mae'r perchennog yn rhydd i waredu'r eiddo fel y gwêl y perchennog yn dda; ac ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw warediad o'r eiddo ar ôl hynny gan y perchennog.
(3) Os bydd y naill barti neu'r llall neu'r ddau yn gofyn i'r Prisiwr Dosbarth benderfynu gwerth yr eiddo yn unol ag adran 158 o Ddeddf 1985, eithrir o'r cyfnod cyfrifo ym mharagraff (1) yr amser o'r dyddiad y cafwyd y cais gan y Prisiwr Dosbarth hyd at y dyddiad yr hysbysir y gwerth a benderfynir i'r partïon.
11 
Wrth gyfrifo cyfnod at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn, gyda'r eithriad o'r cyfnod o 12 mis yn rheoliad 9, ni chynhwysir dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith, neu ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
12 

(1) Rhaid i hysbysiad cynnig—
(a) bod yn ysgrifenedig;
(b) datgan bod y perchennog yn dymuno gwaredu'r eiddo, gan roi ei gyfeiriad post llawn;
(c) datgan bod yna gyfamod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog gynnig yr eiddo yn gyntaf i'r sawl sy'n cael yr hysbysiad;
(ch) o ran yr eiddo y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef—
(i) pennu a ydyw'r eiddo yn dŷ, yn fflat neu'n rhandy;
(ii) pennu nifer yr ystafelloedd gwely;
(iii) rhoi manylion y system wresogi;
(iv) pennu unrhyw welliannau neu newidiadau strwythurol a wnaed ers y pryniant; a
(d) datgan y cyfeiriad lle gall y sawl sy'n cael yr hysbysiad gyflwyno hysbysiadau i'r perchennog.
(2) Rhaid i hysbysiad derbyn—
(a) bod yn ysgrifenedig;
(b) dangos yn eglur a yw'r person sy'n rhoi'r hysbysiad—
(i) yn derbyn y cynnig; neu
(ii) yn enwebu person arall i dderbyn y cynnig; ac
(c) rhoi cyfeiriad post llawn a Rhif ffôn unrhyw enwebai.
(3) Rhaid i hysbysiad gwrthod—
(a) bod yn ysgrifenedig; a
(b) datgan bod y person yn gwrthod y cynnig i brynu'r eiddo.
13 
Ceir cyflwyno hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn naill ai drwy draddodi personol, neu drwy'r post.
14 
Gan eithrio rheoliadau 15 i 17, bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd wrth arfer yr hawl a roddwyd gan adran 171A o Ddeddf 1985.
15 
Gan eithrio rheoliadau 14, 16 a 17 bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd wrth arfer yr hawl a roddwyd gan adran 16 o Ddeddf Tai 1996.
16 

(1) Gan eithrio rheoliadau 14, 15, a 17, bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd ar ddisgownt oddi wrth awdurdod lleol a ddefnyddiodd ei bŵer i waredu tir yn adran 32 o Ddeddf 1985, yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.
(2) Yn rheoliad 1—
(a) yn lle'r diffiniad o “landlord blaenorol” rhodder—“
 ystyr “perchennog blaenorol” (“former owner”) yw'r awdurdod lleol a waredodd yr eiddo o dan adran 32 o Ddeddf 1985”;
(b) yn lle'r diffiniad o “perchennog” rhodder—“
 ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r person sydd yn berchennog rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol yr eiddo ac sy'n gyfrwymol i gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 36A o Ddeddf 1985”; ac
(c) yn lle'r diffiniad o “eiddo” rhodder—“
 ystyr “eiddo” (“property”) yw eiddo sy'n ddarostyngedig i gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 36A o Ddeddf 1985”.
(3) Yn rheoliad 10(3), yn lle “adran 158” rhodder “adran 36B”.
(4) Ble bynnag y mae'r ymadrodd “landlord blaenorol” yn digwydd rhodder “perchennog blaenorol”.
17 

(1) Gan eithrio rheoliadau 14 i 16, bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os bydd gwarediad perthnasol, heblaw gwarediad esempt, o fuddiant perchennog mewn eiddo a gaffaelwyd ar ddisgownt oddi wrth landlord cymdeithasol cofrestredig a ddefnyddiodd ei bŵer i waredu tir yn adran 9 o Ddeddf Tai 1996, yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.
(2) Yn rheoliad 1—
(a) yn lle'r diffiniad o “landlord blaenorol” rhodder—“
 ystyr “perchennog blaenorol” (“former owner”) yw'r landlord cymdeithasol cofrestredig a waredodd yr eiddo o dan adran 9 o Ddeddf Tai 1996”;
(b) yn lle'r diffiniad o “perchennog” rhodder—“
 ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r person sydd yn berchennog rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol yr eiddo ac sy'n gyfrwymol i gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 12A o Ddeddf Tai 1996”; ac
(c) yn lle'r diffiniad o “eiddo” rhodder—“
 ystyr “eiddo” (“property”) yw eiddo sy'n ddarostyngedig i gyfamod hawl cynnig cyntaf a osodwyd o dan adran 12A o Ddeddf Tai 1996”
(3) Yn rheoliad 10(3), yn lle “adran 158 o Ddeddf 1985” rhodder “adran 12B o Ddeddf Tai 1996”.
(4) Ble bynnag y mae'r ymadrodd “landlord blaenorol” yn digwydd rhodder “perchennog blaenorol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Medi 2005