
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.
4 
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 7 Gorffennaf 2005 —
(a) adran 10(2);
(b) adran 44 (1), (2), (5) a (6);
(c) adran 49 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 6 isod;
(ch) adran 50 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 isod;
(d) yn Atodlen 6, paragraff 7, dileu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998; ac
(e) yn Atodlen 7, diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
5 
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 1 Medi 2006—
(a) adran 44(3); a
(b) adran 44(4).
6 
Er gwaethaf dwyn i rym adran 44(1) a (2) yn rhinwedd erthygl 4(b) uchod, hyd at 1 Medi 2006 mae swyddogathau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005 yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2005