
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4, ym mharagraff (1)(a) yn lle'r gair “bedwerydd” rhowch y gair “drydydd”, ac yn lle'r gair “bedair” yn y paragraff hwnnw ac ym mharagraff (1)(b) rhowch y gair “dair”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005