
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Adennill Costau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “canolfan gost” (“cost centre”) yw uned o atebolrwydd ariannol adnabyddadwy o fewn cyfrifon rheoli hawlydd ac sy'n gyfrifol am weithgareddau penodol o fewn sefydliad hawlydd;
 ystyr “cost cyfalaf” (“cost of capital”) yw cost y cyfalaf a gyfrifir drwy gyfeirio at y gyfradd enillion a ragnodir naill ai gan ddeddfwriaeth, neu gan y rheoleiddiwr perthnasol o ran gweithgareddau rheoleiddiedig yr hawlydd (p'un a yw'r gwaith am dâl yn un o'r gweithgareddau hynny ai peidio) neu, os na ragnodir cyfradd o'r fath, drwy gyfeirio at gyfradd sy'n ddau y cant yn uwch na chyfradd ddisgownt y sector cyhoeddus fel a bennir gan y Trysorlys o bryd i'w gilydd;
 ystyr “costau” (“costs”) yw costau neu dreuliau y cyfeirir atynt yn adran 96(1) o'r Ddeddf fel rhai y mae modd i awdurdod, corff neu berson eu hadennill o dan Ran III o'r Ddeddf;
 ystyr “costau uniongyrchol” (“direct costs”) yw'r costau hynny a ddisgrifir yn rheoliad 5;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
 ystyr “gorbenion” (“overheads”) yw'r costau hynny a ddisgrifir yn rheoliad 6;
 ystyr “gwaith am dâl” (“chargeable job”) yw gwaith y mae modd adennill ei gostau o dan ddarpariaethau Rhan III o'r Ddeddf;
 ystyr “gwasanaethau cymorth” (“support services”) yw gwasanaethau a ddarperir oddi fewn i sefydliad er mwyn cynorthwyo gweithgareddau sy'n mynd i gostau uniongyrchol;
 ystyr “gweithgareddau rheoleiddiedig” (“regulated activities”) yw gweithgareddau a awdurdodir neu a reoleiddir gan drwydded ac a oruchwylir gan y rheoleiddiwr perthnasol;
 ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw awdurdod, corff neu berson sydd â'r hawl i adennill costau o dan Ran III o'r Ddeddf;
 ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”) yw person, sy'n annibynnol ar yr hawlydd, ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau rheoleiddiedig yr hawlydd a sicrhau bod yr hawlydd yn cydymffurfio â thelerau'r drwydded sy'n awdurdodi'r gweithgareddau hynny; ac
 ystyr “trwydded” (“licence”) yw unrhyw ffurf ar awdurdodiad, caniatâd, neu benodiad sy'n awdurdodi'r hawlydd i gynnal gweithgareddau rheoleiddiedig.
3 
Y sail y mae symiau o gostau i'w cyfrifo arni yw'r sail a roddir yn narpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
4 

(1) Y costau fydd costau uniongyrchol a gorbenion i'r graddau y mae'r costau uniongyrchol hynny a'r gorbenion hynny yn berthnasol i waith penodol am dâl a chyfrifir hwynt yn unol â'r polisïau ariannol a fabwysiedir gan yr hawlydd i ddatgan canlyniadau ariannol y canolfannau cost sy'n gyfrifol am y gwaith am dâl neu am ddarparu gwasanaethau cymorth i'r canolfannau hynny.
(2) Pan fo modd adennill costau yn unol â Rheoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r graddau y mae'r costau yn “gostau caniatadwy” fel a ddiffinnir yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2005.
(3) Bydd modd adennill y costau naill ai fel costau uniongyrchol o dan reoliad 5 neu fel gorbenion o dan reoliad 6, ond nid fel y ddau.
(4) Bydd y costau'n glir o unrhyw ddisgownt neu ad-daliad a ganiateir i'r hawlydd.
5 
Mae costau uniongyrchol yn gostau yn unrhyw un o'r pum dosbarth a bennir isod—
(a) cost staff (p'un a ydynt yn cael cyflog ai peidio) a gyflogir yn uniongyrchol gan yr hawlydd ac a gyfrifir yn unol â rheoliad 7;
(b) y costau sy'n daladwy i gontractiwr y mae'r hawlydd yn ei gymryd ymlaen;
(c) costau deunyddiau;
(ch) cost hurio cyfarpar, peiriannau a cherbydau neu, pan fo'r cyfarpar, y peiriannau neu'r cerbydau yn cael eu lesio i'r hawlydd, y gost gyfatebol seiliedig ar raddfeydd perthnasol y farchnad; a
(d) costau eraill sy'n berthnasol ac yn benodol briodoladwy i waith am dâl.
6 

(1) Gorbenion fydd canran briodol o'r costau uniongyrchol y cyfeirir atynt yn rheoliad 5, wedi'u cyfrifo a'u cymhwyso ar wahân ar gyfer pob dosbarth ar y costau hynny.
(2) Ystyr canran briodol at ddibenion y rheoliad hwn yw'r ganran a gyfrifir drwy gymhwyso'r fformwla:(b/a×100)plws(c/a×100)plws(ch/a×100)pan fo:acyfanswm costau uniongyrchol pob gwaith am dâl, a gwaith heblaw gwaith am dâl, y codir ar y ganolfan gost neu'r canolfannau cost amdano, a'r ganolfan gost honno neu'r canolfannau cost hynny yn gyfrifol am y gwaith am dâl yn ystod y cyfnod diweddaraf y mae cyfrifon cyhoeddedig ar gael ar ei gyfer;bcost, yn ystod y cyfnod hwnnw, gwasanaethau cymorth a ddarperir o fewn y ganolfan gost neu'r canolfannau cost sy'n gyfrifol am y gwaith am dâl;ccost, yn ystod y cyfnod hwnnw, y gwasanaethau cymorth a ddarperir i'r ganolfan gost neu'r canolfannau cost sy'n gyfrifol am y gwaith am dâl gan ganolfannau cost eraill o fewn sefydliad yr hawlydd; achcost, yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfalaf a dibrisiant asedau a ddefnyddir ynghyswllt costau uniongyrchol yr aeth y ganolfan gost neu'r canolfannau cost iddynt a'r ganolfan gost honno neu'r canolfannau cost hynny yn gyfrifol am y gwaith am dâl, neu gost yr aed iddi yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol wrth ddarparu gwasanaethau cymorth i'r ganolfan gost honno neu i'r canolfannau cost hynny.
7 

(1) At ddibenion rheoliad 5(a), cyfrifir costau staff drwy gyfeirio at y gyfradd y cyflogir person arni fesul awr gan rannu amcangyfrif rhesymol o gost flynyddol cyflogi person ag oriau cynhyrchiol y person hwnnw yn ystod yr un cyfnod blynyddol.
(2) Ym mharagraff (1) uchod, ystyr “oriau cynhyrchiol” yw'r oriau hynny pryd yr amcangyfrifir yn rhesymol y bydd person wrthi'n gwneud gwaith am dâl neu waith o fath tebyg o fewn sefydliad yr hawlydd, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyfnodau o salwch, gwyliau, hyfforddiant neu absenoldeb arall.
8 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gostau na threuliau y mae modd eu hadennill o ran unrhyw weithred yr ymgymerir â hi o ran trwydded o dan adran 50 o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005