
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2003” (“2003 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003.
2 
Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 2003 rhodder y diffiniad a ganlyn lle bynnag y bo'n briodol —“
 mae i “partner sifil” yr ystyr a roddir i “civil partner” yn adran 1(1) o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004”.
3 
Mewnosodir y geiriau “yn bartner sifil,” ar ôl y geiriau “yn briod,” yn rheoliad 4(3)(c), (ch) a (d) o Reoliadau 2003.
4 
Rhodder y testun a ganlyn yn lle rheoliad 4(5) o Reoliadau 2003 —“
(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel a nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol, oni bai bod y person hwnnw yn cael budd-daliadau neu lwfansau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ei fod yn ddibynnydd person o'r fath.”
5 
Yn Rheoliadau 2003 mewnosoder yr Atodlen fel a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2005
ATODLEN
Rheoliad 4
“
ATODLEN
Rheoliad 4(5)
1. 
Budd-dal Treth Gyngor
2. 
Budd-dal Tai
3. 
Cymhorthdal Incwm
4. 
Lwfans Ceisio Gwaith (Ar Sail Incwm)
5. 
Credyd Pensiwn (Cynilion)
6. 
Credyd Pensiwn (Gwarant)
7. 
Credyd Treth Gwaith.”