
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Mehefin 2005.
2 
Yn rheoliad 6 i 9 ac yn yr Atodlen —
 mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis a Bison bison;
 ystyr “barcio” (“tanning”) yw caledu'r crwyn drwy ddefnyddio cyfryngau barcio llysieuol, halwynau cromiwm neu sylweddau eraill megis halwynau alwminiwm, halwynau fferrig, halwynau silicig, aldehydau a chwinonau, neu gyfryngau caledu synthetig eraill;
 mae i'r ymadroddion “canolfan gasglu” a “sefydliad” yr ystyr a roddir i “collection centre” ac “establishment” yn adran B o Bennod 4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 92/118/EEC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ac iechyd cyhoeddus sy'n llywodraethu masnach yn y Gymuned a mewnforion i'r Gymuned o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodwyd yn rheolau penodedig y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC (fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn);
 ystyr “colagen” (“collagen”) yw cynnyrch sy'n seiliedig ar brotein sy'n dod o groen anifail buchol;
 ystyr “colagen y bwriedir i bobl ei fwyta” (“collagen intended for human consumption”) yw colagen y bwriedir i bobl ei fwyta naill ai fel bwyd neu wedi'i gynnwys mewn unrhyw fwyd neu gynnyrch neu mewn deunydd a gaiff ei lapio amdanynt i bobl ei fwyta;
 ystyr “crwyn” (“hides and skins”) yw meinweoedd croenol ac is-groenol;
 ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; a
 mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn adran A o Bennod 4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 92/118/EEC (fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn).
3 
Diwygir Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999 yn unol â rheoliadau 4 a 5.
4 
Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (cynhyrchu sgil-gynhyrchion buchol a thraddodi a rhoi ar y farchnad gig buchol, cynhyrchion a sgil-gynhyrchion penodol), rhodder y paragraff canlynol —“
(1) No person will —
(a) produce any gelatin derived from a bovine animal slaughtered in the United Kingdom, being gelatin which is liable to enter the human food or animal feed chain or is destined for use in cosmetics or in medical or pharmaceutical products; or
(b) produce any collagen, derived from a bovine animal slaughtered in the United Kingdom, being collagen which is liable to enter the human food or animal feed chain or is destined for use in cosmetics or in medical or pharmaceutical products, unless it is collagen intended for human consumption in the United Kingdom.”.
5 
Ym mharagraff (3) o reoliad 9 (defnyddio sgil-gynhyrchion buchol a chynhyrchion eraill a reolir) —
(a) dileer y geiriau “gelatin or collagen produced” lle'r ymddangosant hwy gyntaf;
(b) rhodder y geiriau “gelatin or collagen produced” ar ddechrau is-baragraffau (a) a (b); a
(c) mewnosoder “; or” a'r is-baragraff a ganlyn ar ôl is-baragraff (b)—“
(c) collagen produced in accordance with regulation 6 of the Production of Bovine Collagen Intended for Human Consumption in the United Kingdom (Wales) Regulations 2005.”
6 

(1) Tan ddiwedd 2005 ni chaiff neb gynhyrchu unrhyw golagen sy'n dod o unrhyw anifail buchol a gigyddwyd yn y Deyrnas Unedig, sef colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yno, oni chydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraff 1 i 5 o'r Atodlen.
(2) Bydd meddiannydd unrhyw sefydliad lle cynhyrchir colagen o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cadw cofnodion am ddwy flynedd —
(a) ar ffynonellau yr holl ddeunydd crai a ddaw yno, o ddyddiad ei dderbyn yn y sefydliad; a
(b) ar yr holl gynhyrchion sy'n mynd allan, o ddyddiad eu hanfon.
(3) Tan ddiwedd 2005 ni chaiff neb lapio, pacio, storio neu gludo unrhyw golagen sy'n dod o unrhyw anifail buchol a gigyddwyd yn y Deyrnas Unedig, sef colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yno, oni chydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraff 6 o'r Atodlen.
7 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 6 yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored —
(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau; neu
(b)  ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
(3) Ni chychwynnir unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan reoliad 6 ar ôl i'r cyfnodau canlynol ddod i ben —
(a) tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
8 
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion rheoliadau 6 a 7, gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn gyfeiriad at reoliad 7 —
(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(c) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan Bartneriaethau Albanaidd); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
9 

(1) Gweithredir a gorfodir rheoliad 6 gan yr awdurdod bwyd o fewn ei ardal.
(2) Wrth archwilio unrhyw golagen y bwriedir i bobl ei fwyta, caiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd y lleolwyd y fangre lle cafodd ei archwilio o fewn ei ardal, ardystio nad yw'r colagen o dan sylw wedi cael ei gynhyrchu, ei lapio, pacio, storio neu gludo yn unol â rheoliad 6.
(3) Os ardystir unrhyw golagen y bwriedir i bobl ei fwyta fel y crybwyllir ym mharagraff (2), caiff ei drin at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel methiant i gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2005
YR ATODLEN
Rheoliad 6
RHAN 1
1 

(1) Dim ond crwyn anifeiliaid buchol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), a ganiateir eu defnyddio fel deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen y bwriedir i bobl ei fwyta yn y Deyrnas Unedig.
(2) Gwaherddir defnyddio crwyn a gyflwynwyd i brosesau barcio.
(3) Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o anifeiliaid buchol a gigyddwyd mewn lladd-dy y gwelwyd bod eu carcasau yn ffit i'w bwyta gan bobl yn dilyn archwiliad ante mortem a post mortem.
(4) Rhaid i'r deunyddiau crai ddod o ladd-dai, canolfannau casglu neu danerdai.
(5) Awdurdodir canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai o dan reoliad 6 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003.
2 

(1) Rhaid cludo deunyddiau crai a arfaethir ar gyfer cynhyrchu colagen o dan amodau glendid gan ddefnyddio dull priodol o gludo.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) rhaid cludo a storio deunyddiau crai yn oer neu wedi eu rhewi, oni phrosesir hwy o fewn 24 awr ar ôl eu hanfon.
(3) Caniateir cludo a storio crwyn a halltwyd, eu sychu a'u calchu a chrwyn a gafodd eu trin ag alcali neu asid ar dymheredd amgylchynol.
(4) Rhaid cadw'r ystafelloedd storio mewn cyflwr da a glân, fel na fyddant yn ffynhonnell halogi'r deunyddiau crai.
(5) Yn ystod y cludo ac ar adeg y traddodi i'r canolfannau casglu a'r sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen, rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r deunyddiau crai yn unol â'r model a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
3 

(1) Rhaid i'r cynhyrchu ar colagen y bwriedir i bobl ei fwyta ddigwydd mewn sefydliad a awdurdodwyd o dan reoliad 5 o Reoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003.
(2) Rhaid rhoi ar waith yn y sefydliad system sy'n ei gwneud yn bosibl cysylltu pob swp cynhyrchu a anfonir gyda'r llwythi â'r deunyddiau crai cysylltiedig sy'n dod i mewn, yr amodau cynhyrchu ac amser y cynhyrchu.
4 

(1) Rhaid cynhyrchu colagen drwy broses a fydd yn sicrhau bod y deunydd crai yn mynd drwy driniaeth sy'n ymwneud â golchi, addasu pH gan ddefnyddio asid neu alcali a ddilynir gan rinsio unwaith neu fwy, hidlo ac allwthio.
(2) Ni fydd colagen a gynhyrchir yn unol ag is-baragraff (1) yn mynd drwy brosesau pellach heblaw proses sychu.
(3) Ni fydd colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta yn cael ei gynhyrchu a'i storio yn yr un sefydliad â cholagen y bwriedir i bobl ei fwyta onid yw'r colagen nas bwriadir i bobl ei fwyta wedi cael ei gynhyrchu a'i storio o dan yr un amodau ag a nodir yn yr Atodlen hon.
(4) Gwaherddir defnyddio cyffeithyddion heblaw'r rhai a ganiateir o dan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 95/2/EC ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (fel y diwygir y Gyfarwyddeb honno ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn).
5 

(1) Cymerir mesurau priodol, gan gynnwys profion, i sicrhau bod pob swp cynhyrchu colagen, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn bodloni'r meini prawf microbiolegol a gweddilliol a nodir yn y Tabl yn Rhan 3 o'r Atodlen hon.
(2) Os yw natur cynnyrch gorffenedig o'r math fel ei fod yn golygu na fyddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â'r terfynau lleithder a lludw a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen hon, ni fydd y terfynau hynny yn gymwys i'r cynnyrch hwnnw.
6 

(1) Rhaid lapio, pacio, storio a chludo colagen y bwriedir i bobl ei fwyta o dan amodau hylendid boddhaol, ac yn benodol —
(a) rhaid darparu ystafell ar gyfer storio deunydd, lapio a phacio;
(b) rhaid i'r lapio a'r pacio ddigwydd mewn ystafell neu mewn lle a fwriadwyd i'r diben hwnnw yn unig.
(2) Rhaid i ddeunyddiau lapio a phacio sy'n cynnwys colagen —
(a) dwyn marc adnabod sy'n rhoi'r manylion canlynol —
(i) yr enw “United Kingdom” neu'r llythrennau blaen “UK”,
(ii) a ddilynir gan rif cofrestru'r sefydliad a'r llythrennau blaen “EC”; a
(b) dwyn y geiriau “Collagen fit for human consumption in the United Kingdom”; a
(c) dwyn y dyddiad paratoi a rhif y swp.
(3) Rhaid bod dogfen fasnachol gyda'r colagen yn ystod y cyfnod y cludir ef a rhaid iddi ddwyn —
(a) y geiriau “Collagen fit for human consumption in the United Kingdom”; a
(b) y dyddiad paratoi a rhif y swp.
RHAN 2
RHAN 3

Paramedrau microbiolegol Terfyn
Cyfanswm bacteria aerobig 103/g
Colifformau (30°C) 0/g
Colifformau (44.5°C) 0/10g
Bacteria sy'n lleihau sylffit anaerobig (ddim yn cynhyrchu nwy) 10/g
Clostridiwm perffringens 0/g
Staffylococws awrews 0/g
Salmonela 0/25g

Elfennau Terfyn
As 1 ppm
Pb 5 ppm
Cd 0.5 ppm
Hg 0.15 ppm
Cr 10 ppm
Cu 30 ppm
Zn 50 ppm
Lleithder (105°C) 15%
Lludw (550°C) 2%
SO2 (Reith Williems) 50 ppm
H2O2 (European Pharmacopia 1986 (V2O2)) 10 ppm