
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2005.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3 

(1) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
4 
31 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5 

(1) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 3 o Atodlen 4 yn gymwys o ran derbyn plant mewn blwyddyn ysgol yn gynharach na 2007-2008.
(2) Er bod paragraff 10 a 11 o Atodlen 4 yn dod i rym, nid yw'r diwygiadau i adrannau 96 a 97 o Ddeddf 1998 yn effeithiol o ran penderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg lleol cyn 31 Mai 2005 sy'n cyfarwyddo ysgol benodol i dderbyn disgybl.
(3) Os bydd rhiant wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 24 i Deddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —
(a) mae adrannau 84(6) a 94 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 24 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai adran 50, paragraffau 2 a 8 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 24 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a
(b) mae adran 25(5)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.
(4) Os bydd corff llywodraethu wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 25 i Ddeddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —
(a) mae adrannau 84(6), 87 a 95 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 25 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai paragraffau 2 a 9 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 25 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a
(b) mae adran 25(5)(c) of Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2005
YR ATODLEN
Erthygl 4


Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 50 Apelau derbyn
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod Diwygiadau pellach o ran derbyniadau
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 4, paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 11 Trefniadau Derbyn
Atodlen 21 Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
Paragraffau 1, 2 a 22 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym 
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Diddymiadau
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlenni 24 a 25, 
Yn Atodlen 26, paragraffau 6(4), 8(9) a 15, 
Yn Atodlen 28, Rhan 2, 
Yn Atodlen 30, paragraffau 3(3), 47(a). 