
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir rheoliad 4 (Cymhwyso adran 20 i gytundebau hir-dymor cymwys) o Reoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 —
(a) ym mharagraff (3), drwy roi yn lle “Yn” y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A), yn”; a
(b) drwy fewnosod, ar ôl paragraff (3), y paragraff canlynol -“
(3A) Os yw landlord —
(a) yn bwriadu ymrwymo i gytundeb hir-dymor cymwys ar neu ar ôl 31 Mai 2005; a
(b) ar unrhyw bryd rhwng 31 Hydref 2003 a 31 Mai 2005, heb gwblhau cyfrifon sy'n berthnasol i daliadau gwasanaeth sy'n cyfeirio at gytundeb hir-dymor cymwys ac sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r anheddau y mae'r cytundeb arfaethedig yn berthnasol iddynt,
y dyddiad perthnasol yw dyddiad cychwyn y cyfnod cyntaf y mae'r taliadau gwasanaeth sy'n cyfeirio at y cytundeb arfaethedig yn daladwy o dan delerau lesoedd yr anheddau hynny.”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005