
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ceisiadau a gyflwynir, neu achosion a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys prisio lesddaliadau, ynghylch mangreoedd yng Nghymru ar neu ar ôl 31 Mai 2005.
2 
Diwygir Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), yn lle paragraff (3), rhodder —“
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw gais a wneir, neu achos a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys prisio lesddaliadau ynghylch tir ac adeiladau yng Nghymru ar neu ar ôl —
(a) yn achos cais o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 8 o Atodlen 1, 31 Mai 2005;
(b) mewn unrhyw achos arall, 31 Mawrth 2004.”.
4 
Yn rheoliad 3 —
(a) ym mharagraff (3), yn lle “ym mharagraff 2”, y tro cyntaf y mae'n digwydd, rhodder “yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (dd) o baragraff 2”; a
(b) ar ôl paragraff (7), mewnosoder y paragraff a ganlyn —“
(7A) Pan fo cais o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 8 o Atodlen 1 (penderfyniad a oes cyfamod neu amod wedi'i dorri) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 7 o Atodlen 2 gyda'r cais.”.
5 
Yn rheoliad 13(1), yn lle is-baragraffau (a) i (c), rhodder yr is-baragraffau canlynol —“
 
(a) os yw wedi rhoi i'r ceisydd a'r ymatebydd ddim llai na 28 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i fynd rhagddo heb wrandawiad llafar; a
(b) os nad yw'r ceisydd na'r ymatebydd wedi cyflwyno cais i'r tribiwnlys am gael gwrandawiad,ond nid yw'r paragraff hwn yn lleihau effaith paragraff (3).”.
6 
Yn rheoliad 17, yn lle paragraffau (4) i (7), rhodder y paragraffau canlynol —“
(4) Pan fydd archwiliad i'w gynnal, rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon.
(5) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4) —
(a) datgan dyddiad, amser a lle'r archwiliad; a
(b) cael ei roi nid llai na 14 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw.”.
7 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 7, mewnosoder y paragraff a ganlyn —“
8. 
Ceisiadau o dan adran 168(4) o Ddeddf 2002.”.
8 
Yn Atodlen 2 —
(a) ym mharagraff 1 (rhyddfreinio ac estyn lesoedd), ar ôl is-baragraff (5), mewnosoder yr is-baragraff canlynol —“
(6) Ac eithrio pan fydd cais yn cael ei wneud o dan adran 24, 25 neu 27 o Ddeddf 1993, copi o'r les.”;
(b) ym mharagraff 6 (amrywio lesoedd), ar ôl is-baragraff (2), ychwaneger yr is-baragraff canlynol —“
(3) Copi o'r les.”; ac
(c) ar ôl paragraff 6, ychwaneger y paragraff a ganlyn —“
7. 

(1) Datganiad sy'n rhoi manylion y toriad honedig o gyfamod neu amod.
(2) Copi o'r les sydd o dan sylw.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005