
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran anheddau yng Nghymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
3 

(1) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 (Gofyniad i hysbysu deiliaid lesoedd hir bod rhent yn ddyledus) gynnwys (yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn unol â pharagraffau (a) a (b) o is-adran (2) o'r adran honno ac, os yw'n gymwys, paragraff (c) o'r is-adran honno) —
(a) enw'r lesddeiliad y mae'r hysbysiad yn cael ei roi iddo;
(b) y cyfnod y mae'r rhent sy'n cael ei hawlio i'w briodoli iddo;
(c) enw'r person y mae taliad i'w wneud iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu;
(ch) enw'r landlord y mae'r hysbysiad yn cael ei roi ganddo ac, os nad yw wedi'i nodi yn unol ag is-baragraff (c) uchod, ei gyfeiriad; a
(d) yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) o adran 166 o Ddeddf 2002 fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
YR ATODLEN
Rheoliad 3

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002, ADRAN 166