
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 3 ac Arbediad a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni ddywedir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru
2 
Yn ddarostyngedig i erthygl 3, daw'r darpariaethau canlynol i rym yng Nghymru ar 31 Mai 2005 —
(a) adran 126,
(b) adran 157, i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 15 o Atodlen 10,
(c) adran 164, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
(ch) adran 165,
(d) adrannau 166 a 167, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym,
(dd) adrannau 168 i 170,
(e) adran 171, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
(f) yn adran 172, is-adrannau (1) i (5), ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwysiad adrannau 21 i 22 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, fel y'u hamnewidir neu fel y'u mewnosodir gan adrannau 152 i 154, i'r Goron,
(ff) adran 176 ac Atodlen 13, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, a
(g) adran 180, i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu yn Atodlen 14 —
(i) y diffiniad o “the valuation date” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 6 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993;
(ii) adran 82 o Ddeddf Tai 1996; a
(iii) ym mharagraff 18(2) o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno, paragraff (b) a'r gair “and” sydd o'i flaen.
3 

(1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mai 2005 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae adrannau 121 i 124 yn dod i rym yn llawn, bydd paragraff 4(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn effeithiol fel petai'r geiriau “persons who are participating tenants immediately before a binding contract is entered into in pursuance of the initial notice” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “participating tenants”.
(2) Ni fydd adran 126 yn effeithiol o ran —
(a) hysbysiadau a roddir cyn 31 Mai 2005 o dan adran 13 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993; neu
(b) ceisiadau a wneir cyn 31 Mai 2005 o dan adran 26 o'r Ddeddf honno.
(3) Ni fydd adran 168 yn effeithiol o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 146(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 cyn 31 Mai 2005 ynghylch torri unrhyw gyfamod neu amod gan denant.
(4) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan adran 170 yn effeithiol o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 146(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 cyn 31 Mai 2005.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005