
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 31 Mai 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon) —
(a) Cheshire Mortgage Corporation Limited (Cwmni Rhif 02613335);
(b) London Scottish Finance Limited (Cwmni Rhif 00233259);
(c) Money Partners Limited (Cwmni Rhif 04992438);
(ch) Money Partners Finance Limited (Cwmni Rhif 05299032).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005