
1 
O ran y Rheoliadau hyn —
(a) eu henw yw Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005;
(b) deuant i rym —
(i) yn achos rheoliad 3 a rheoliadau 1 a 2 i'r graddau y maent yn berthnasol i reoliad 3, ar 27 Mai 2005;
(ii) neu fel arall, ar 16 Mehefin 2005;
(c) maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw un o ddarpariaethau Rheoliad 2065/2003 a bennir yng ngholofn 1 ac a ddisgrifir yng ngholofn 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990”;
 ystyr “Rheoliad 2065/2003” (“Regulation 2065/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 2065/2003 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn Rheoliad 2065/2003 ac yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r atodiad â'r Rhif hwnnw yn Rheoliad 2065/2003.
3 
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cenedlaethol cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad 2065/2003 (cais am awdurdodiad).
4 

(1) Os aed yn groes i unrhyw un o Erthyglau 4.2, 5.1, 5.2, 9.4, neu 9.5 mewn perthynas ag unrhyw fwyd—
(a) rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel pe bai'n methu cydymffurfio â'r gofynion diogelwch bwyd; a
(b) os rhan o swp, lot neu o lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad yw'r bwyd hwnnw, hyd nes y profir i'r gwrthwyneb, rhaid tybio bod y cyfan o'r bwyd sydd yn y swp hwnnw, yn y lot hwnnw neu yn y llwyth hwnnw'n methu cydymffurfio â'r gofynion hynny.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn mae “bwyd” yn cynnwys unrhyw gyddwysiad sylfaenol o fwg, ffracsiwn sylfaenol o dar neu gyflasyn mwg deilliedig.
5 
Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig sydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
6 
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 2065/2003 fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —
(a) adran 3 (rhagdybiaeth y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 14 neu 15 o'r Ddeddf honno);
(ch) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(d) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(e) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(f) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(ff) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(g) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
7 
Bydd rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2005
YR ATODLEN
Rheoliadau 2 a 4


Darpariaeth Rheoliad 2065/2003 Y Pwnc
Erthygl 4.2 Gwahardd marchnata cyflasyn mwg nad yw ar y rhestr o gyflasynnau mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o'r fath yn bresennol ynddo neu arno.Gwahardd marchnata cyflasyn mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o'r fath yn bresennol ynddo neu arno, ac eithrio yn unol ag unrhyw amodau defnyddio a osodwyd yn yr awdurdodiad.
Erthygl 5.1 Gwahardd defnyddio pren wedi'i drin, oni ellir dangos drwy dystysgrif neu ddogfennaeth briodol nad yw'r sylwedd a ddefnyddir i drin y pren, wrth iddo ymlosgi, yn peri sylweddau a allai fod yn wenwynig.Gofyniad y gellir dangos drwy ddogfennaeth neu dystysgrif fod rhywun wedi cydymffurfio â'r gwaharddiad a ddisgrifir uchod.
Erthygl 5.2 Gofyniad y cydymffurfir â'r amodau yn Atodiad 1 wrth gynhyrchu cynhyrchion cynradd.Gwahardd y defnydd o'r cyflwr olewaidd annhoddadwy mewn dŵ r wrth gynhyrchu cyflasynnau mwg.
Erthygl 9.4 Gofyniad bod yn rhaid i ddeiliad awdurdodiad neu unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, sy'n defnyddio cynnyrch awdurdodedig, neu gyflasyn mwg deilliedig a gynhyrchir o gynnyrch awdurdodedig, gydymffurfio ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad.
Erthygl 9.5 Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch awdurdodedig, ac a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y cynnyrch awdurdodedig hwnnw.
Erthygl 13.1 Gofyniad bod gweithredwyr busnesau bwyd yn sicrhau y trosglwyddir yr wybodaeth benodedig i'r gweithredydd busnes bwyd sy'n derbyn y cynnyrch pan osodir y cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf.
Erthygl 13.2 Gofyniad, yn sgil gosod cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf, bod gweithredwyr busnesau bwyd sy'n gosod y cynhyrchion ar y farchnad yn trosglwyddo'r wybodaeth benodedig yn Erthygl 13.1 i'r gweithredwyr busnes bwyd sy'n derbyn y cynnyrch, bob tro y rhoddir y cynnyrch ar y farchnad.
Erthygl 13.3 Gofyniad bod gan weithredwyr busnesau bwyd systemau a gweithdrefnau yn eu lle sy'n nodi gan bwy y maent wedi derbyn y cynnyrch ac i bwy y maent wedi ei drosglwyddo.