
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 30 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy'n addas ar gyfer plant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol; acmae'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 512(6) o Ddeddf 1996.
3 

(1) Rhagnodir y gofyniad canlynol at ddiben adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996.
(2) Rhaid i ddisgybl cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fydd yn yr ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw.
4 
Bydd disgybl sy'n derbyn addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir y mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu iddo yn union cyn 1 Ebrill 2003 yn cael ei drin fel pe na bai unrhyw ofynion rhagnodedig yn gymwys i'r disgybl hwnnw o dan adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996 hyd nes y bydd yn gorffen derbyn addysg feithrin.
5 
Mae Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003 drwy hyn yn cael ei ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Ebrill 2005