
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
(a) Rheoliadau Tatws s'n Tarddu o'r Iseldiroedd 1997; a
(b) Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Diwygio) 1998 .
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Ebrill 2005