
RHAN 1
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004; mae'n gymwys i Gymru, a daw i rym ar 31 Mawrth 2004.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol, ond nid yw'n cynnwys person nad yw ond yn cludo moch; a
 “ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae moch yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;
 mae i “daliad cymeradwy” (“approved holding”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 23;
 mae i “marc adnabod” (“identification mark”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 10;
 ystyr “marc y genfaint” (“herdmark”) yw'r cod alffaniwmerig a ddyrennir i genfaint o foch gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag erthygl 4(2);
 ystyr “rhif CPH” (“CPH number”) yw rhif daliad a neilltuir o dro i dro i unrhyw ddaliad neu ran o unrhyw ddaliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
3 
Rhaid i unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, gall fod yn amodol ar amodau a chaniateir ei hatal, diwygio neu ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw amser.
RHAN 2
4 

(1) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol Cynulliad am yr wybodaeth ganlynol o fewn un mis ar ôl sefydlu daliad —
(a) cyfeiriad y daliad; a
(b) enw a chyfeiriad perchennog neu feddiannydd y daliad.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cod alffaniwmerig ar gyfer pob cenfaint o foch ar y daliad (“marc y genfaint”), ar ôl i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei darparu.
(3) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newid neu y chwanegiad at yr wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis ar ôl y newid neu'r ychwanegiad.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i geidwad sydd eisioes wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae ei angen o dan yr erthygl hon fod yn ysgrifenedig.
5 

(1) Rhaid i geidwad gofnodi pob un o symudiadau mochyn i'w ddaliad ac oddi yno o fewn 36 awr ar ôl y symud.
(2) Rhaid i'r cofnod fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen.
(3) Os yw'r symud ar gyfer unrhyw ddiben y cyfeirir ato yn erthyglau 19 neu 20 rhaid i'r ceidwad hefyd gofnodi'r rhif adnabod unigol unigryw.
6 

(1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy, yn ychwanegol at ofynion erthygl 5, gofnodi manylion unrhyw fochyn y deuir ag ef i ladd-dy —
(a) nad yw wedi'i farcio yn unol ag erthygl 14, yn achos mochyn dros 12 mis oed;
(b) nad yw wedi'i farcio yn unol ag erthygl 18 yn achos mochyn 12 mis oed neu'n iau; ac
(c) nad yw'r ddogfen sy'n ofynnol gan erthygl 21 gydagef.
(2) Rhaid i'r manylion i'w cofnodi gael eu cadw ar wahân i'r wybodaeth sy'n ofynnol gan erthygl 5 a rhaid iddynt gynnwys hefyd —
(a) enw ceidwad y mochyn; a
(b) y daliad yr anfonwyd y mochyn oddi arno i'w gigydda.
7 

(1) Mewn marchnad lle gwerthir moch trwy arwerthiant rhaid i feddiannydd y farchnad, ar gyfer pob lot of foch, gofnodi —
(a) yr wybodaeth yn yr Atodlen;
(b) enw'r gwerthwr a'r prynwr; a
(c) rhif y lloc lle y daliwyd pob lot.
(2) Rhaid i'r cofnod gael ei wneud o fewn 36 awr ar ôl y gwerthiant.
8 
O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i'r ceidwad gadw cofnodion uchafswm nifer y moch sy'n bresennol fel rheol ar y daliad.
9 

(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnodion o dan y Gorchymyn hwn eu cadw am o leiaf 6 blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod ynddi.
(2) Caiff cofnodion fod yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.
RHAN 3
10 

(1) Marc adnabod yw —
(a) tag clust sydd wedi'i stampio neu wedi'i argraffu â'r llythrennau “UK” ac ar ôl hynny marc y genfaint; neu
(b) tatw o farc y genfaint sy'n ddarllenadwy am oes y mochyn.
(2) At ddibenion erthyglau 19 a 20 rhaid i farc y genfaint ym mharagraff (1) gael ei ddilyn gan rif adnabod unigol unigryw a neilltuir i'r mochyn gan y ceidwad.
11 
Rhaid i dag clust —
(a) bod yn hawdd ei ddarllen drwy gydol oes y mochyn;
(b) bod wedi'i wneud naill ai o fetel neu blastig neu gyfuniad o fetel a phlastig;
(c) bod yn amhosibl ymhêl ag ef;
(ch) bod yn amhosibl ei ail-ddefnyddio;
(d) gallu gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi'i stampio arno;
(dd) fod o ddylunwaith a fydd yn dal i fod ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.
12 
Tatw o farc y genfaint a roddir ar ddwy ysgwydd flaen y mochyn yw slapfarc.
13 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal ceidwad rhag marcio'r mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu rhag ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at y marc adnabod, ar yr amod nad yw'r marciau hyn yn effeithio ar y gallu i darllen y marc adnabod neu'r slapfarc.
RHAN 4
14 
Ni chaiff neb symud mochyn dros 12 mis oed oddi ar ddaliad oni bai ei fod wedi'i farcio â'r canlynol —
(a) marc adnabod; neu
(b) slapfarc sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn a thrwy gydol prosesu ei garcas.
15 

(1) Ni chaiff neb symud mochyn 12 mis oed neu'n iau oddi ar ddaliad oni bai ei fod wedi'i adnabod yn unol ag erthygl 14 neu â marc dros dro.
(2) Rhaid i farc dros dro—
(a) naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sydd gyda'r mochyn yn ystod y symud, alluogi'r daliad y symudwyd y mochyn oddi arno ddiwethaf i gael ei adnabod; a
(b) para nes y bydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.
16 

(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n mewnforio mochyn o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd roi tag clust neu datw ar y mochyn sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn ganlynol —
(a) y llythrennau “UK”;
(b) marc cenfaint y genfaint y cyflwynir y mochyn a fewnforiwyd iddi;
(c) unrhyw wybodaeth arall, os yw'r ceidwad yn dymuno defnyddio gwybodaeth o'r fath; a
(ch) y llythyren “F”.
(2) Rhaid i'r tag clust neu'r tatw gael ei roi ar y mochyn o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw.
RHAN 5
17 
Mae'r gofynion adnabod ar gyfer symud a bennir yn erthyglau 18 i 20 yn gymwys yn ychwanegol at y gofynion yn Rhan 4.
18 

(1) Ni chaiff neb symud mochyn 12 mis oed neu'n iau oddi ar ddaliad i ladd-dy neu farchnad gigydda oni bai ei fod wedi'i farcio â —
(a) marc adnabod; neu
(b) slapfarc sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn a thrwy gydol prosesu ei garcas.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr marchnad gigydda yw marchnad i werthu moch y bwriedir eu cigydda yn ddiymdroi.
19 
Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad —
(a) i sioe neu arddangosfa; neu
(b) at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y cafodd ei symud oddi arnooni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw yn unol ag erthygl 10(2).
20 

(1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnach neu allforio rhyng-Gymunedol oni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys —
(a) rhif adnabod unigol unigryw yn unol ag erthygl 10(2); a
(b) y llythrennau “UK” o flaen marc y genfaint.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys p'un ai tag clust ynteu tatw yw marc adnabod.
RHAN 6
21 

(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen, a lofnodwyd gan y ceidwad sy'n pennu —
(a) y cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH y daliadau y mae'r moch yn cael eu symud oddi arnynt ac iddynt;
(b) y dyddiad y mae'r symud yn digwydd;
(c) y nifer o foch y mae'r ddogfen honno'n eu cwmpasu;
(ch) marc adnabod pob un o'r moch a symudir; ac
(d) yn achos symud mochyn o farchnad, rhif lot y moch sy'n cael eu symud.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo mochyn roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan a rhaid i'r ceidwad ei chadw am o leiaf 6 mis.
(3) Rhaid i geidwad daliad y gyrchfan anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol, a hynny o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd.
(4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud y tu allan i Gymru anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol ar gyfer y daliad traddodi.
22 

(1) Caiff ceidwad mochyn anwes wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol am drwydded (“trwydded gerdded”) sy'n caniatáu i'r ceidwad symud y mochyn heb gydymffurfio ag erthyglau 5 a 21.
(2) Rhaid i'r person sy'n symud y mochyn o dan y drwydded hon gario copi ohoni drwy gydol y symud.
23 

(1) Daliad y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gymeradwyo at ddibenion symud moch y bwriedir eu bridio neu eu pesgi yw daliad cymeradwy.
(2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y gellir symud moch oddi arnynt a pha ddaliadau y gellir eu symud iddynt.
(3) Nid yw symud moch rhwng daliadau sydd wedi'u cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 .
RHAN 7
24 
Ni chaiff neb, oni bai ei fod yn cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, ddileu marc adnabod a roddir neu a atodir o dan y Gorchymyn hwn.
25 

(1) Ni chaiff neb, oni bai ei fod yn cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, amnewid marc adnabod a roddir neu a atodir o dan y Gorchymyn hwn oni bai —
(a) bod y marc wedi dod yn amhosibl ei ddarllen;
(b) ei fod wedi'i ddileu am resymau lles; neu
(c) ei fod wedi mynd ar goll.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n amnewid marc adnabod naill ai—
(a) defnyddio marc adnabod union debyg; neu
(b) defnyddio marc adnabod newydd a chroes-gyfeirio'r marc adnabod newydd â'r marc adnabod gwreiddiol yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 5.
26 
Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnodion a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael eu cyflwyno os gwneir cais ac i gopi neu allbrint ohono gael ei wneud.
27 

(1) Mae'r Gorchymyn hwn i'w orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn i'w gyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd) ac nid gan yr awdurdod lleol.
28 

(1) Dirymir y canlynol—
(a) Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif 2) 2002;
(b) Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif. 2) (Diwygio) 2003; a
(c) Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003.
(2) Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud 1995) mewn perthynas â Chymru yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004Ben Bradshaw
Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
30 Mawrth 2004
ATODLEN
Erthygl 5
