
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
2 

(1) 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym —
(a) adran 67 o'r Ddeddf (aelodaeth o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd yng Nghymru);
(b) adran 69 o'r Ddeddf (grantiau ar gyfer gwaith draenio a systemau rhybudd rhag llifogydd);
(c) paragraff 42 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (mân ddiwygiadau canlyniadol) ac adran 101(1) o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef;
(ch) Atodlen 9 i'r Ddeddf (diddymiadau a dirymu), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 ac adran 101(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995; a
(d) adran 75 o'r Ddeddf (estyn pwerau wrth gefn awdurdod gorfodi).
(2) Caiff y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(b) i (d) eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru'n unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mawrth 2004