
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, “ystyr Deddf 2003” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
2 
1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod a bennwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2003—
(a) adran 47;
(b) adrannau 70 i 75;
(c) ac eithrio adran 94(6) i (8), y darpariaethau ym Mhennod 6 o Ran 2 o Ddeddf 2003 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(d) adrannau 109, a 142 i 145;
(e) mewn perthynas â Chymru, adrannau 106, 108, 111, ac adran 196 a Rhan 2 o Atodlen 14 i'r graddau y maent yn berthnasol i adran 31(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mawrth 2004