
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Act”) yw Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964:
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw'r Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd a sefydlwyd ar gyfer Cymru a Sir Fynwy o dan adran 2 o Ddeddf 1964, a adnabyddir fel Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Cymru); ac
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2 

(1) Diddymir y Cyngor a'i swyddogaethau.
(2) Trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yr holl eiddo a hawliau y mae gan y Cyngor hawl iddynt ac unrhyw rwymedigaethau sydd ar y Cyngor.
3 

(1) Diwygir adran 2 o Ddeddf 1964 fel a ganlyn:
(a) yn lle is-adran (1) rhowch —“
(1) There shall be a Library Advisory Council for England and it shall be the duty of the Council to advise the Secretary of State upon such matters connected with the provision or use of library facilities whether under this Act or otherwise as it thinks fit, and upon any questions referred to it by him.”;
(b) Yn is-adran (2) yn lle “each” rhowch “the” (yn y ddau fan);
(c) Yn is-adran (3) yn lle “Each” rhowch “The”;
(ch) Yn is-adran (4) yn lle “either” rhowch “the”;
(d) Yn is-adran (5) yn lle “Each” rhowch “The” ac yn lle “a ” rhowch “the ”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 1A o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976, diddymir y cyfeiriad at “Library and Information Services Council (Wales)”.
(3) Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, diddymir y cyfeiriad at “Library and Information Services Council (Wales)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Mawrth 2004