
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(2) —
(a) yn lle'r geiriau “five weeks” rhowch y geiriau “35 working days”, a
(b) dilëwch y geiriau “, or, where it is necessary to provide a translation into Welsh or English, the period of seven weeks from that date”.
(3)  Yn rheoliad 8(1) —
(a) yn lle'r gair “forty” rhowch y geiriau “forty five”, a
(b) dilëwch y geiriau “, or where it is necessary to provide a translation into Welsh or English, the period of forty five working days from that date”.
(4) Yn rheoliad 13(2) —
(a) yn lle'r geiriau “five weeks” rhowch y geiriau “35 working days”, a
(b) dilëwch y geiriau “or within seven weeks from that date where it is necessary to provide a translation into Welsh or English,”.
(5) Yn rheoliad 13(3) —
(a) yn lle'r gair “forty” rhowch y geiriau “forty five”, a
(b) dilëwch y geiriau “or within forty five working days from that date where it is necessary to provide a translation into Welsh or English,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2004