
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fangreoedd yng Nghymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;
 ystyr “landlord”, (“landlord”) mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre;
 ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni RTM yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn cysylltiad â hi;
 ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre heblaw yn landlord neu'n denant.
3 

(1) Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan) gynnwys (yn ychwanegol at y datganiadau a'r gwahoddiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (2) o adran 78 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan) o Ddeddf 2002), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a) Rhif cofrestredig y cwmni RTM, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr a'i ysgrifennydd;
(b) enwau'r landlord ac unrhyw drydydd parti;
(c) datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd y cwmni'n gyfrifol am—
(i) cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y les; a
(ii) arfer ei bwerau o dan y les,
o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;
(ch) datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y caiff y cwmni orfodi cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo);
(d) datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, na fydd y cwmni'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac arfer ei bwerau o dan y les—
(i) o ran mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i les a gaiff ei dal gan denant cymwys; neu
(ii) ynghylch ailfynediad neu fforffediad;
(dd) datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd gan y cwmni swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;
(e) datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli o fewn ystyr adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985; ac,
(i) os yw'n fwriad o'r fath ganddo, ddatganiad—(aa) o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os yw'n wybyddus); a(bb) os yw'n wir, bod y person yn asiant rheoli i'r landlord; neu
(ii) os nad yw'n fwriad o'r fath ganddo, cymwysterau neu brofiad (os oes rhai) aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;
(f) datganiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio, y gall person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad;
(ff) datganiad, os nad yw'r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad (yn gwahodd i gymryd rhan) yn llwyr ddeall ei ddiben neu ei oblygiadau, sy'n ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; ac
(g) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
4 
Rhaid i hysbysiad hawlio) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol gan is-adrannau (2) i (7) o adran 80 (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002)—
(a) datganiad bod y person —
(i) nad yw'n dadlau â hawl y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli; a
(ii) sydd yn barti rheolwr o dan gontract rheoli sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio o dan adran 80(6) o Ddeddf 2002,
yn gorfod, yn unol ag adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002, roi hysbysiad mewn perthynas â'r contract i'r person sydd yn barti contractiwr mewn perthynas â'r contract a'r cwmni RTM;
(b) datganiad bod landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi â hawl i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael);
(c) datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb yn unrhyw fanylion sy'n ofynnol gan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—
(i) nodi'r manylion o dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a
(ii) dangos pam yr ystyrir eu bod yn anghywir;
(ch) datganiad bod y sawl sy'n derbyn yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall ei ddiben, yn cael ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; a
(d) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
5 
Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (2) o adran 84 (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—
(a) datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel y crybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf 2002, gyflwyno cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, yr awdurdod i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio;
(b) datganiad na chaiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad fel yr un a grybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (2) o adran 84 o Ddeddf 2002, yr hawl i reoli'r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio oni bai—
(i) y penderfynir yn derfynol ar gais i dribiwnlys prisio lesddaliad bod yr awdurdod gan y cwmni i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu
(ii) bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno'n ysgrifenedig fod gan y cwmni yr awdurdod hwnnw; ac
(c) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.
6 
Rhaid i hysbysiad contractiwr gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (d) o is-adran (3) o adran 92 (dyletswyddau i roi gwybod am gontractau) o Ddeddf 2002 ) —
(a) datganiad, pe bai'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo yn dymuno darparu gwasanaethau i'r cwmni RTM y mae, fel y parti contractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad; a
(b) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
7 
Rhaid i hysbysiad contract) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) o is-adran (7) o adran 92 o Ddeddf 2002)—
(a) cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr, o dan y contract y ceir manylion amdano yn yr hysbysiad;
(b) datganiad, pe bai'r cwmni RTM yn dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, wedi ei ddarparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw, cynghorir ei fod yn cysylltu â'r parti contractiwr, neu barti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddwyd yn yr hysbysiad; a
(c) yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.
8 

(1) Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(2) Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(3) Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(4) Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
(5) Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn a phan roddir dyddiadau yn yr hysbysiadau rhaid defnyddio ffigurau ac nid geiriau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
ATODLEN 1
Rheoliadau 3(2)(g) ac 8(1)
ATODLEN

ATODLEN 2
Rheoliadau 4(d) ac 8(2)
ATODLEN

ATODLEN 3
Rheoliadau 5(c) ac 8(3)
ATODLEN 4
Rheoliad 6(b) ac 8(4)
ATODLEN

ATODLEN 5
Rheoliad 7(c) ac 8(5)
ATODLEN
