
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) (Dirymu ac Arbed) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Mawrth 2004.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir drwy hyn Orchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) 1997 mewn perthynas â Chymru
(2) Ni fydd effaith i'r dirymiad ym mharagraff (1) o ran unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno i dribiwnlys prisio lesddaliadau cyn 31 Mawrth 2004 ynglŷn â mangre yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004