
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gwmnïau RTM) mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i femorandwm cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i erthyglau cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn effeithiol ar gyfer cwmni RTM os mabwysiedir hwy gan y Cwmni neu beidio.
(4) Pan fydd cwmni RTM yn dymuno cael naill ai ei femorandwm cymdeithasu neu ei erthyglau cymdeithasu, neu'r ddau, yn Gymraeg, rhaid i'r dogfennau hynny gymryd y ffurf a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys, yn y drefn honno, y darpariaethau sydd ynddynt.
(5) Os digwydd y canlynol—
(a) bod Cwmni RTM wedi mabwysiadu memorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b) nad yw'r memorandwm a'r erthyglau, neu'r naill neu'r llall ohonynt, yn cydymffurfio, o ran cynnwys, â gofynion paragraffau (1) a (2) neu, yn achos dogfennau yn yr iaith Gymraeg, baragraff (4),
ymdrinnir â'r memorandwm a'r erthyglau, wrth ac ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, fel pe baent yn cynnwys y darpariaethau hynny a nodir yn yr Atodlenni sy'n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion hynny (boed yn ychwanegol at y cynnwys gwreiddiol neu yn lle'r cynnwys gwreiddiol yn ôl yr amgylchiadau).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
ATODLEN 1
Rheoliad 2
RHAN 1
RHAN 2
ATODLEN 2
Rheoliad 2
RHAN 1
RHAN 2