
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967;
 ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1985;
 ystyr “Deddf 1987” (“the 1987 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1987);
 ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996);
 ystyr “TPL” (“LVT”) yw tribiwnlys prisio lesddaliadau;
 mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi; ac
 mae unrhyw gyfeiriad at ddiddymiad yn gyfeiriad at ddiddymiad a wneir gan adran 180 ac Atodlen 14.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Daw darpariaethau canlynol i rym ar 30 Mawrth 2004 —
(a) adrannau 71 i 73, 75 i 77, 79, 81 i 83 , 85 i 91, 93 i 103, 105 i 109, 111 i 113, 159, 163, 173, Atodlenni 6 a 7;
(b) adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 174 ac Atodlen 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac
(c) yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn —
(i) adrannau 148, 149, 150, 155, 157 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8 i 13 o Atodlen 10, 158, 175, 176 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13, Atodlen 9, paragraffau 8 i 13 o Atodlen 10, Atodlen 11 a pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13;
(ii) is-adrannau (1) i (5) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwyso i'r Goron adrannau 152 i 154, 164 i 171, paragraffau 1 i 7 o Atodlen 10 a pharagraff 16 o Atodlen 13;
(iii) is-adran (6) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y mae'r amnewidiadau a wnaed gan yr is-adran honno'n ymwneud ag adrannau 42A a 42B o Ddeddf 1987;
(iv) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 180 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i) i (vi), adran 151 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym —
(i) mewn perthynas ag unrhyw achos y mae is-baragraff (ii), (iii), (iv) neu (vi) yn gymwys iddo, ni fydd unrhyw effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 151 a bydd Gorchymyn Taliadau Gwasanaeth (Amcangyfrifon ac Ymgynghori) 1988 yn parhau'n gymwys;
(ii) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r gwaith sydd yn gymwys wedi dechrau cyn 31 Mawrth 2004;
(iii) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r landlord wedi rhoi neu arddangos yr hysbysiad angenrheidiol o dan adran 20 o Deddf 1985, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys, cyn 31 Mawrth 2004;
(iv) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys y mae is-baragraff (v) yn gymwys iddo, mae'r landlord wedi rhoi hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991, Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993 neu Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995 cyn 31 Mawrth 2004;
(v) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i waith sydd yn gymwys a wneir o dan gontract —(a) y bwriedir ei wneud ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004; ac(b) sydd am gyfnod o ddeuddeg mis neu'n llai;
(vi) mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, o dan gytundeb a wneir gan neu ar ran landlord neu uwch landlord, cyn 31 Mawrth 2004, mae gwaith sydd yn gymwys yn cael ei wneud ar unrhyw amser yn y cyfnod yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ddau fis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
ATODLEN 1
Erthygl 2(c)(iv)
RHAN 1

Teitl byr a phennod Hyd a lled y diddymiad
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 (p. 88) Adran 21(1A) a (3) i (4A).
Deddf Tai 1980 (p. 51) Yn adran 142—
 is-adran (2), ac
 yn is-adran (3), y geiriau o'r dechrau i “and”.Yn Atodlen 22—
 Rhan 1, ac yn Rhan 2, paragraff 8(4) i (6).
Deddf Landlord a Thenant, 1985 (p. 70) Adrannau 31A i 31C.Yn yr Atodlen, paragraff 8(5).
Deddf Landlord a Thenant 1987 (p.31) Adran 23(2).Adrannau 24A a 24B.Yn adran 38, yn y nodyn ochr, y geiriau “by the court”.Adran 52AYn adran 53(2), y geiriau “under section 52A(3) or”.
Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53) Yn Atodlen 3, paragraff 13.
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) Adran 75(4) a (5)Yn adran 88—
 yn is-adran (2)(b), y geiriau “constituted for the purposes of that Part of that Act”, a
 is-adrannau (3) i (5) a (7).
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 Yn adran 91—
 yn is-adran (1), y geiriau o'r dechrau i “this section; and”,
 is-adrannau (3) i (8),
 is-adran (10), ac
 yn is-adran (11), y geiriau o “and the reference” i'r diwedd.Yn adran 94, yn is-adran (10), y geiriau o “and references in this subsection” i'r diwedd.Yn adran 101(1), y diffiniad o “rent assessment committee”.
Deddf Tai 1996 (p. 52) Adran 83(3).Adran 86(4) a (5).Adran 119.Yn Atodlen 6, yn Rhan 4, paragraffau 7 ac 8.
RHAN 2

Teitl byr a phennod Hyd a lled y diddymiad
Deddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) Adran 19(2A) i (3).Yn adran 39, y cofnod sy'n cyfeirio at yr ymadrodd “flat”.Yn yr Atodlen—
 yn y pennawd cyn paragraff 2, y geiriau “Request for”,
 yn y pennawd cyn paragraff 4, y geiriau “Request relating to”,
 yn y pennawd cyn paragraff 5, y geiriau “on request”.
Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) Yn adran 29(2)(a), y geiriau “repair, maintenance, insurance or”.Adran 56(2).Yn Atodlen 2, paragraffau 3 a 7
Deddf Tai 1996 (p.52) Adran 83(1).Yn Atodlen 9, paragraff 2(3) a (7).
ATODLEN 2
Erthygl 2(c)
1 
Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adrannau 148 a 149 effaith mewn perthynas â chais am ryddfreinio a wneir o dan adran 27 o Ddeddf 1967 cyn 31 Mawrth 2004.
2 
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 7 o Atodlen 9 yn gymwys i gostau a dynnir cyn 31 Mawrth 2004 mewn cysylltiad â materion y codir tâl gwasanaethau ar eu cyfer.
3 
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.
4 
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 9 o Atodlen 9 a'r diddymiad yn adran 29 o Ddeddf 1987 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 29 o'r Ddeddf honno cyn 31 Mawrth 2004.
5 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 10 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 1993 cyn 31 Mawrth 2004.
6 
Ni fydd effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 155 a diddymiadau adran 19(2A) i (3) o Deddf 1985 ac o adran 83(1) o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag —
(a) unrhyw gais a wneir i TPL o dan adran 19(2A) neu (2B) o Deddf 1985; neu
(b) unrhyw achos sy'n ymwneud â thaliad gwasanaethau a drosglwyddir i TPL gan lys sirol,cyn 31 Mawrth 2004.
7 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraffau 8 i 13 o Atodlen 10 a'r diddymiadau canlyniadol yn yr Atodlen i Deddf 1985 yn gymwys i gais a wneir o dan yr Atodlen honno cyn 31 Mawrth 2004.
8 
Ni fydd paragraffau 2 i 5 o Atodlen 11 yn gymwys i dâl gweinyddol a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.
9 
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 11 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.
10 
Ni fydd Adran 159 yn gymwys i daliad o dan gynllun rheoli ystad a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.
11 
Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adran 163 effaith mewn perthynas â chais a wneir i'r llys o dan Ran 4 o Ddeddf 1897 cyn 31 Mawrth 2004.
12 
Ni fydd amrywiad unrhyw denantiaeth a wneir gan orchymyn neu yn unol â gorchymyn a wnaed cyn 31 Mawrth 2004 o dan adran 38 o Ddeddf 1987 yn cael ei drin fel un sy'n rhwymo'r Goron, fel rhagflaenydd yn y teitl o dan y denantiaeth, yn rhinwedd adran 39(1) o'r Ddeddf honno.
13 
Ni fydd effaith i Adran 175, y diwygiadau a wnaed gan adran 176 ac Atodlen 13 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag —
(a) unrhyw gais a wneir i TPL; neu
(b) unrhyw achosion a drosglwyddir i TPL gan gyngor sir,cyn 31 Mawrth 2004.