
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.
2 
Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995), yn y cofnod am E425 yn lle'r geiriau yn nhrydedd golofn y cofnod hwnnw, rhodder y geiriau “Foods in general (except those referred to in Schedules 6, 7 and 8, and jelly confectionery, including jelly mini-cups)”.
3 

(1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999, Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001 Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002, Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003, Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003), Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003, Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Powdr (Cymru) 2003, Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003, Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003), Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 a'r Rheoliadau hyn:
 Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynau mewn bwyd 1966;
 Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992;
 Rheoliadau Labelu Bwyd 1996;
 Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2004