
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Yn Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
 ystyr “cofnodion” (“records”) yw unrhyw ddeunyddiau mewn pa bynnag ffurf neu gyfrwng sy'n cyfleu neu'n gallu cyfleu gwybodaeth ac y mae iddi strwythur wrth gyfeirio —
(a) at unigolion neu at feini prawf sy'n ymwneud ag unigolion, yn y fath fodd fel bod gwybodaeth benodol sy'n ymwneud ag unigolyn penodol ar gael yn hwylus; neu
(b) at unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Cynulliad, yn y fath fodd fel bod gwybodaeth benodol sy'n ymwneud ag eiddo, hawliau neu rwymedigaethau ar gael yn hwylus;
 ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw person —
(a) na therfynodd ei gontract cyflogaeth â'r Cynulliad cyn y dyddiad trosglwyddo (boed drwy i hysbysiad ddod i ben, amser wedi dirwyn i ben neu fel arall): a
(b) a gafodd gynnig cyflogaeth gyda PIC ac sydd wedi derbyn y gyflogaeth cyn y dyddiad trosglwyddo;
 ystyr “cynnwys” (“contents”) yw unrhyw item neu eiddo o ba ddisgrifiad bynnag —
(a) sy'n eiddo'r Cynulliad yn union o flaen y dyddiad trosglwyddo; a
(b) sy'n bresennol yn neu ar y tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i hyn ar y dyddiad trosglwyddo;
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 “ ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“operational date”) yw 1 Ebrill 2004;
 ystyr “PIC” (“HPW”) yw Proffesiynau Iechyd Cymru;
 dehonglir “tir” (“land”) yn unol ag Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978, ac eithrio y dehonglir bod unrhyw gyfeiriad at drosglwyddo tir yn rhinwedd y gorchymyn hwn yn cynnwys trosglwyddo unrhyw drwydded o dan gontract i ddefnyddio'r tir.
(3) Dehonglir bod unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn cynnwys cyfeiriad at drosglwyddo unrhyw hawliau a rhwymedigaethau gan y Cynulliad sy'n bodoli mewn perthynas ag eiddo o'r fath yn union o flaen y dyddiad trosglwyddo.
(4) Pan drosglwyddir eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Cynulliad i PIC yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinnir ag unrhyw beth a wnaed gan neu mewn perthynas â'r Cynulliad mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o'r fath fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â PIC.
2 
Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen trosglwyddir y tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i hyn o'r Cynulliad i PIC.
3 
Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen trosglwyddir y cynnwys a bennir yn yr Atodlen i hyn, a phob eiddo, hawliau a rhwymedigaethau eraill a'r cofnodion sy'n berthnasol iddynt y mae gan y Cynulliad hawl iddynt neu y mae'n ddarostyngedig iddynt, wrth i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, o ran arfer swyddogaethau cyn y dyddiad hwnnw a freiniwyd yn PIC yn rhinwedd Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 o'r Cynulliad i PIC.
4 

(1) Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, ymdrinnir â chontract cyflogaeth rhwng cyflogai perthnasol a'r Cynulliad fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a PIC.
(2) Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n ymwneud â chyflogeion perthnasol o'r Cynulliad i PIC.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2004
YR ATODLEN
Erthyglau 2 a 3

Tir ac adeiladau ar ail lawr Golate House Heol Eglwys Fair Caerdydd a gynhywsir mewn prydles ddyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd (1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (2).
