
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wybodaeth am ddisgyblion unigol sy'n ymwneud â disgyblion mewn ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yng Nghymru.
(3) Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 1999.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “arholiadau TAG Safon Uwch” (“GCE “A” level examinations”) ac “arholiadau TAG Uwch Gyfrannol” (“GCE “AS” examinations”) yw arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol safon uwch ac arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Uwch Gyfrannol yn eu trefn;
 ystyr “cydlynydd gwybodaeth” (“information collator”) yw cydlynydd gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef, unrhyw gorff sydd, at ddibenion neu mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Cynulliad yn ymwneud ag addysg, yn gyfrifol am gydlynu neu wirio gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion;
 ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw rai o'r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) yn eu trefn o adran 103(1) o Ddeddf Addysg 2002 ac mae cyfeiriad at gyfnod allweddol un, dau neu dri yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn eu trefn ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o adran 103(1) a enwyd eisoes;
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “GNVQ” (“GNVQ”) yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;
 ystyr “gwybodaeth am ddisgyblion unigol” (“individual pupil information”) yw gwybodaeth yn ystyr adran 537A(9) o Ddeddf 1996, sef, gwybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion unigol neu gyn-ddisgyblion (mewn ysgolion, heblaw ysgolion meithrin, yng Nghymru) ac sy'n eu henwi, os cafwyd yr wybodaeth o dan adran 537A(1) o Ddeddf 1996 neu fel arall; ac
 ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd.
3 

(1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae'r Cynulliad yn rhagnodi fel person y caiff y Cynulliad roi unrhyw wybodaeth am ddisgyblion unigol iddo unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (4) isod.
(2) At ddibenion adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, mae'r Cynulliad yn rhagnodi fel person y caiff cydlynydd gwybodaeth roi gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddo fel a ganlyn—
(a) unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (5) isod; a
(b) unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (6) isod.
(3) Yr wybodaeth am ddisgyblion unigol y caiff cydlynydd gwybodaeth ei rhoi felly, ar yr adegau y caiff y Cynulliad benderfynu arnynt, yn unol ag adran 537A(5)(b) o Ddeddf 1996, yw unrhyw wybodaeth o'r fath sy'n ymwneud â chyflawniadau addysgol disgyblion yn y canlynol—
(a) unrhyw asesiad Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddisgyblion yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri;
(b) unrhyw bynciau TGAU;
(c) unrhyw arholiadau TAG Safon Uwch;
(ch) unrhyw arholiadau TAG Uwch Gyfrannol;
(d) unrhyw bynciau GNVQ; ac
(dd) unrhyw gwrs astudio a ddarperir i ddisgyblion mewn oedran ysgol gorfodol yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n arwain at gymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad neu gan gorff a ddynodwyd gan y Cynulliad o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (heblaw cymhwyster o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod).
(4) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw —
(a) Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales; a
(b) Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.
(5) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) uchod yw —
(a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol na chynhelir mohoni felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi, lle y cofrestrir neu lle y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno;
(b) Swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales; ac
(c) Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.
(6) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2004