
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2004.
2 

(1) Caiff Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 eu newid yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —
(a) yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis;”; a
(b) yn lle'r diffiniad o “tsilis poeth a chynnyrtsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”) rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth”(“hot chilli and hot chilli products”) yw —
(a) ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan God CN 09042090; a
(b) powdwr cyrri sy'n dod o dan God CN 091050;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Chwefror 2004