
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gŵynion a wneir, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, o dan adran 68 o'r Ddeddf i awdurdod perthnasol ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
2 
Rhaid i'r ffi a bennir gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 68(1)(b) o'r Ddeddf beidio â bod yn fwy na £320.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Rhagfyr 2004