
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gŵynion am wrychoedd neu berthi yng Nghymru.
2 
Daw Rhan 8 o'r Ddeddf (Gwrychoedd neu Berthi Uchel) i rym ar 31 Rhagfyr 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Rhagfyr 2004