
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym —
(a) adran 63 o'r Ddeddf (gorfodi dyletswydd i atal rhwystrau ar briffyrdd);
(b) adran 70(1) a (3) o'r Ddeddf (mân ddiwygiadau i Ddeddf Priffyrdd 1980); ac
(c) paragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau sy'n ymwneud â chynlluniau gwella hawliau tramwy a baratowyd o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf),yw 1 Ebrill 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Chwefror 2004