
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.
4 
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Rhagfyr 2004.
5 
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ionawr 2005.
6 
Er gwaethaf dwyn i rym adran 20 ac adran 46, mae gan ymwelydd sefydliad cymwys awdurdodaeth mewn perthynas â —
(a) unrhyw gŵ yn sy'n dod o fewn adran 20(2) neu (3) os cyflwynwyd y gŵ yn honno i'r ymwelydd cyn 1 Ionawr 2005; a
(b) unrhyw gŵ yn sy'n dod o fewn adran 46(1) os cyflwynwyd y gŵ yn honno i'r ymwelydd cyn 1 Ionawr 2005.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
YR ATODLEN
Erthyglau 4 a 5
RHAN 1

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 11 Sefydliadau cymwys
Adran 12 Cwynion cymwys
Adran 13 Dynodiad y gweithredydd
Adran 14 Dyletswyddau gweithredydd dynodedig
Adran 15 Dyletswyddau sefydliadau cymwys
Adran 16 Terfynu dynodiad
Adran 17 Braint mewn perthynas â chyfraith difenwi
Adran 18 Y ddarpariaeth os yw dynodiad gweithredydd yn dod i ben
Adran 21 Dehongli
Atodlen 1 Amodau i'w bodloni gan weithredydd cynllun cwynion myfyrwyr
Atodlen 2 Amodau i'w bodloni gan gynllun cwynion myfyrwyr
Atodlen 3 Dyletswyddau gweithredydd dynodedig
Atodlen 4 Terfynu dynodiad gweithredydd
RHAN 2

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 20 Hepgor awdurdodaeth ymwelydd mewn perthynas â chwynion myfyrwyr
Adran 46 Hepgor awdurdodaeth ymwelydd mewn perthynas ag anghydfod staff
Adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atloden 7 isod Diddymiadau
Yn Atodlen 7 diddymiadau yn Neddf Diwygio Addysg 1988 (p.40) Diddymiadau