
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “yr ail flwyddyn drosiannol” (“second transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2006;
 ystyr “band prisio gwreiddiol” (“original valuation band”) yw'r band prisio sydd yn gymwys i annedd ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005;
 ystyr “band prisio trosiannol” (“transitional valuation band”) yw band prisio sy'n gymwys i'r annedd yn ystod y cyfnod trosiannol yn unol â rheoliad 4;
 ystyr “cyfnod trosiannol” (“transitional period”) yw'r cyfnod o 1 Ebrill 2005 hyd 31 Mawrth 2008;
 ystyr “y drydedd flwyddyn drosiannol” (“third transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2007;
 ystyr “y flwyddyn drosiannol gyntaf” (“first transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2005;
 ystyr “nifer perthnasol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi” (“relevant number of valuation band increases”) yw nifer y bandiau prisio'n uwch na'r band prisio gwreiddiol y bydd annedd wedi codi yn y rhestr brisio sy'n gymwys i'r annedd honno ar neu ar gyfer 1 Ebrill 2005;
 ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) 1992;
 ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) mae bandiau prisio trosiannol sy'n gymwys i annedd i'w dynodi'n unol â rheoliad 4 ar gyfer y cyfnod trosiannol.
(2) Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi mewn perthynas ag annedd:
(a) rhaid i'r annedd fod yn annedd oedd ar restr brisio ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005; a
(b) rhaid i'r annedd fod wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand prisio neu fwy; ac
(c) bod y person sy'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd ar 31 Mawrth 2005 (neu, os oes mwy nag un person yn atebol, bod o leiaf un o'r personau hynny) hefyd yn atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd honno ar 1 Ebrill 2005 a'i fod yn atebol yn yr un modd ar ryw adeg neu adegau eraill yn ystod y cyfnod trosiannol.
(3) Nid yw band prisio trosiannol i fod yn gymwys i annedd yn ystod unrhyw gyfnod pan fo'r annedd yn dod o fewn dosbarth o anheddau a ragnodwyd naill ai gan reoliad 4 (Dosbarth A) neu gan reoliad 5 (Dosbarth B) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998.
(4) Os yw'r band prisio sy'n gymwys i annedd yn codi, fel canlyniad i newid y rhestr brisio yn ystod y cyfnod trosiannol, i fand sydd ddau neu fwy yn uwch na'r band prisio gwreiddiol yna, yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid ymdrin â'r annedd fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau neu fwy.
(5) Os yw annedd i'w thrin o dan baragraff (4) fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand prisio neu fwy, dim ond o'r dyddiad y newidir y rhestr brisio yn unol â Rheoliadau 1993 neu y tybir y'i newidir felly y mae unrhyw fand prisio trosiannol a ddynodir mewn cysylltiad â'r annedd i fod yn gymwys:
(a) yn y flwyddyn drosiannol gyntaf, yn unol â rheoliad 4(3);
(b) yn yr ail flwyddyn drosiannol, yn unol â rheoliad 4(4);
(c) yn y drydedd flwyddyn drosiannol, yn unol â rheoliad 4(5).
4 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 3(5) a 6, mae'r band prisio trosiannol ar gyfer annedd yn ystod y cyfnod trosiannol i'w ddynodi'n unol â'r paragraffau canlynol ar gyfer pob un o flynyddoedd y cyfnod trosiannol neu ran o un o'r blynyddoedd hynny a dim ond mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn rheoliad 3(2)(c) y mae i'w ddynodi.
(2) At ddibenion y flwyddyn drosiannol gyntaf dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(a) drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a
(b) drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).
(3) At ddibenion yr ail flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(a) drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a
(b) drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).
(4) At ddibenion y drydedd flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(a) drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a
(b) drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).
5 
Os yw band prisio trosiannol wedi'i ddynodi mewn cysylltiad ag annedd ar gyfer y cyfnod trosiannol neu unrhyw ran ohono, rhaid penderfynu ar atebolrwydd i dalu treth gyngor ar yr annedd honno a chyfrifo'r dreth gyngor fel pe bai cyfeiriadau yn Neddf 1992 at y band prisio a restrir ar gyfer yr annedd yn gyfeiriadau at y band prisio trosiannol y dynodir ei fod yn gymwys i'r annedd honno.
6 
Mae paragraff (6)(a) o reoliad 4 (Cyfrifo'r swm sy'n daladwy) o Reoliadau 1992 i'w ddarllen fel pe bai'r cyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cyfeirio at reoliadau a wnaed o dan adran 13B hefyd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
YR ATODLEN
Rheoliad 4


Tabl
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3) Colofn (4)
Nifer y bandiau prisio'n uwch na'r band prisio gwreiddiol y mae annedd yn codi ar 1 Ebrill 2005 Yn y flwyddyn drosiannol gyntaf (2005/06) gostyngir nifer y bandiau prisio y y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwn Yn yr ail flwyddyn drosiannol (2006/07) gostyngir nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwn Yn y drydedd flwyddyn drosiannol (2007/08) gostyngir nifer y bandiau prisio y bydd annedd yn codi, fel a welir yng ngholofn (1), gan y nifer hwn
8 7 6 5
7 6 5 4
6 5 4 3
5 4 3 2
4 3 2 1
3 2 1 0
2 1 0 0